Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniodd gwaith cyflym gan swyddogion Heddlu De Cymru at arestio dyn a'i ddedfrydu dim ond deuddydd ar ôl iddo gael ei ddal yn torri i mewn i gerbyd a dwyn eitemau o'r car.
Torrodd Darren Williams, 54 oed o Uplands, i mewn i'r cerbyd ar lôn oddi ar Walter Road ar 23 Mawrth. Cafodd Williams ei ddal ar deledu cylch cyfyng yn torri ffenestr flaen y cerbyd ar ochr y teithiwr, cyn iddo ddychwelyd yn ddigywilydd i leoliad y drosedd awr yn ddiweddarach er mwyn ceisio mynd i mewn i'r cerbyd eto.
Cafodd Williams ei arestio yn fuan wedyn, ar ôl i swyddogion nodi ei fod yn cyfateb i'r disgrifiad o'r dyn a welwyd yn y lluniau teledu cylch cyfyng. Gwelwyd bod gan Williams yr eitemau a gafodd eu cymryd o'r car yn ei feddiant.
Plediodd Williams yn euog i ddwyn o gerbyd modur ac achosi difrod troseddol i eiddo. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Luke Morgan:
“Mae lladron fel Darren Williams yn gwneud i bobl dda sy'n parchu'r gyfraith yma yn Abertawe deimlo'n ofnus y gallai eu cerbyd gael ei dargedu ar unrhyw adeg.
“Mae gennym ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â dwyn o gerbydau modur, ac roeddem yn falch o weld y troseddwr haerllug hwn yn cael ei ddwyn i gyfrif mor gyflym."