Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn o Trowbridge wedi cael eu carcharu am ymwneud â chyflenwi heroin a chrac cocên yng nghanol dinas Caerdydd.
Gwelodd swyddogion mewn dillad plaen y rhedwr cyffuriau, 21 oed, yn delio cyffuriau yng nghanol y ddinas ym mis Tachwedd y llynedd.
Cafodd ei arestio ar Heol y Frenhines, a gwelwyd bod ganddo dros 100 rholyn o heroin a chrac cocên, £370 mewn arian parod a nifer o linellau cyffuriau (ffonau symudol) yn ei feddiant.
Cafodd swyddogion eu harwain gan ymholiadau pellach ynghylch Williams at Callum Mayer, 19 oed. Pan gafodd ei arestio rai wythnosau'n ddiweddarach, daethpwyd o hyd i linell cyffuriau a chyllell anghyfreithlon fel un Rambo yn ei feddiant.
Datgelodd yr ymchwiliad fod Mayer yn gysylltiedig â chyfanswm o 9 llinell gyffuriau.
Plediodd Mayer yn euog i ymwneud â chyflenwi heroin, ymwneud â chyflenwi crac cocên, a bod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 15 Ionawr i 3 blynedd a 4 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Plediodd Williams yn euog i fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ymwneud â chyflenwi crac cocên, ymwneud â chyflenwi heroin, bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant a bod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 9 Ionawr i 2 flynedd ac 8 mis yn y carchar.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Daniel Davies o Heddlu De Cymru: “Mae delwyr cyffuriau yn byw bywyd ar ffo, gan edrych dros eu hysgwydd. Rydym yn gwybod pwy ydynt ac rydym allan yn chwilio amdanynt yn ystod y dydd a'r nos.
“Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau.
“Rydym yn gweithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, felly parhewch i gysylltu a chydweithio â ni.”
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.