Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu'r beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad wedi talu teyrnged iddo. Gellir cyhoeddi nawr mai ei enw yw Wayne Bowron.
Dywedon nhw: "Roedd Wayne (BOW) yn dad, yn dad-cu, yn ewythr, yn bartner ac yn ffrind cariadus. Dim ond 52 oed ydoedd pan gafodd ei gymryd oddi wrthym mor sydyn. Ni all dim fynegi'r golled rydym yn ei theimlo fel teulu.
“Roedd llawer o bobl yn Dyrham yn ei nabod a byddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un. Roedd Wayne yn trin pawb fel rhan o'r teulu ac roedd ganddo galon aur. Roedd e wrth ei fodd yn mynd ar gefn ei feic modur, ac roedd yn caru ei ffrindiau yn y gymuned beicio modur. Fel teulu, rydym yn torri ein calonnau ac mae twll enfawr yn ein calonnau ni i gyd na chaiff byth ei lenwi."
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger cylchfan Glais ar yr A4067 am 10.40 p.m. nos Wener. Rydym yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad. Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau camera cerbyd ac sydd heb siarad â'r heddlu eto gysylltu drwy grybwyll y cyfeirnod 2600331858.
Cysylltwch â ni: Ar-lein yma.
Ffoniwch 101
Gellir rhannu gwybodaeth â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111 neu ddefnyddio’r ffurflen ar-lein yn yma.