Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pump o bobl wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu cysylltu ag ymchwiliad i’r llofruddiaeth yn Nhonysguboriau.
Clywodd y llys fod yr heddlu wedi cael eu galw i gyfeiriad yn Llys Illtyd, Tonysguboriau, am 6.10pm ar 9 Mawrth 2025 lle cafodd menyw - sef Joanne Penney, 40 oed - ei hanafu'n ddifrifol ar ôl iddi gael ei saethu yn y frest. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle.
Gwnaeth ymchwiliad helaeth gan dîm Troseddau Mawr Heddlu De Cymru ganfod cyfanswm o 12 o bobl sydd wedi'u dyfarnu'n euog mewn cysylltiad, y cafwyd pump ohonynt yn euog o nifer o droseddau ac fe'u dedfrydwyd heddiw (6 Gorffennaf).
Cafwyd Molly Cooper, 34 oed o Gaerlŷr, yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl iddi bledio'n euog. Fe'i cafwyd yn euog o gael bwledi a chetris ar gyfer arf tanio heb dystysgrif hefyd. Cafodd ei dedfrydu i 30 mis yn y carchar.
Cafwyd Sai Manne, 26 oed o Gaerdydd, yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl pledio'n euog ac fe'i dedfrydwyd i 27 mis o garchar.
Cafwyd Donna James, 51 oed o Lanisien, yn euog ar ôl i reithgor ei dyfarnu'n euog o gynorthwyo troseddwr. Cafodd ddedfryd o 25 mis o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cafwyd Laura John, 23 oed o Riwbeina, yn euog ar ôl i reithgor ei dyfarnu'n euog o gynorthwyo troseddwr a chafodd ddedfryd o 20 mis o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cafwyd Callum Kelleher, 37 oed o Lerpwl, yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl iddo bledio'n euog a chafodd ddedfryd o 16 mis o garchar, wedi'i gohirio am 18 mis.
Daw’r dedfrydau hyn ar ôl i chwech o bobl gael eu dedfrydu am lofruddio Joanne Penney y mis diwethaf.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees:
"Mae ein meddyliau'n aros yn ddiwyro gyda theulu Joanne, sydd wedi dangos cryfder ac urddas eithriadol yn wyneb colled anhygoel. Cymerwyd bywyd Joanne mewn gweithred ddidrugaredd o drais, ac ni all unrhyw beth waredu'r boen y mae ei hanwyliaid yn ei theimlo o hyd.
"Mae'r achos hwn yn amlygu canlyniadau dinistriol troseddau cyfundrefnol. Gwnaeth y rhai hynny sy'n gyfrifol ddiystyru bywyd dynol a diogelwch ein cymunedau yn gyfan gwbl. Dyma rybudd plaen yn sgil y ddedfryd hon - os byddwch chi'n dod â thrais, cyffuriau ac arfau tanio i dde Cymru, byddwn ni'n eich erlid yn ddi-baid, yn chwalu eich rhwydweithiau ac yn sicrhau eich bod yn wynebu holl ganlyniadau eich gweithredoedd.
"Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a'r staff sydd wedi bod yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ochr yn ochr â chydweithwyr o Wasanaeth Erlyn y Goron a'r cwnsler erlyn. Mae eu proffesiynoldeb, eu penderfyniad a'u ffocws wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder i Joanne a'i theulu.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino i amddiffyn ein cymunedau ac i ddal y rhai hynny sy'n gyfrifol am drais difrifol i gyfrif yn llawn."
Plediodd Marcus Huntley, 21 oed o Llaneirwg, Caerdydd, yn euog i lofruddio a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 30 o flynyddoedd a 146 diwrnod, a dwy flynedd a phump mis yn y carchar i'w treulio ar yr un pryd.
Cafodd Renaldo Baptiste, 39 oed o Lundain, ddedfryd am oes gydag isafswm o 42 o flynyddoedd am lofruddiaeth ar ôl y cafwyd yn euog. Roedd hefyd wedi pledio'n euog o'r blaen i gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol; cafodd ddedfryd o ddwy flynedd a 10 mis o garchar. Bydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Cafodd Jordan Mills-Smith, 33 oed o Gaerdydd, ei ddedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 27 o flynyddoedd am lofruddiaeth ar ôl y cafwyd yn euog. Roedd hefyd wedi pledio'n euog o'r blaen i gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol; cafodd ddedfryd o ddwy flynedd a thri mis o garchar am hyn. Bydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Cafodd Joshua Gordon, 27 oed o Swydd Gaerlŷr, ei ddedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 32 o flynyddoedd am lofruddiaeth a 3 blynedd a 10 mis i'w treulio ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd ef yn euog.
Dedfrydwyd Kistina Ginova, 23 oed o Swydd Gaerlŷr, i garchar am oes gydag isafswm o 12 o flynyddoedd am lofruddiaeth a 10 mis i'w treulio ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd hithau'n euog.
Dedfrydwyd Melissa Quailey-Dashper, 40 oed o Gaerlŷr, i garchar am oes gydag isafswm o 14 o flynyddoedd am lofruddiaeth a 22 mis i'w treulio ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd hithau'n euog.
Dedfrydwyd Tony Porter, 69 oed o Swydd Gaerlŷr, i 22 mis yn y carchar ar 19 Mawrth ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol.