Stamp amser presennol: 30/06/26 04:03:21
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Chwe aelod o grŵp troseddu cyfundrefnol wedi'u carcharu am dros 150 mlynedd am lofruddiaeth

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 12:33 24/06/2026

Mae chwech o bobl wedi cael eu carcharu am lofruddio menyw yn Nhonysguboriau, yn y ddedfryd fwyaf ar gyfer llofruddiaeth a welwyd erioed yng Nghymru.

Ar y cyfan, cafodd y grŵp eu carcharu am o leiaf 157 o flynyddoedd, yn dilyn sesiwn ddedfrydu a barodd ddau ddiwrnod yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd y llys sut, ar 9 Mawrth 2025 am 6.10pm, cafodd yr Heddlu eu galw i aelwyd yn Llys Illtyd, Tonysguboriau, lle cafodd dynes – Joanne Penney, 40 oed – ei hanafu'n ddifrifol ar ôl cael ei saethu i'r frest. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle.

Yn ystod yr ymchwiliad dilynol, darganfu Heddlu De Cymru fod dau gar – Nissan Note a Volvo XC40 – wedi teithio o ardal Caerlŷr rywbryd ar ôl 10.30am ddydd Sul 9 Mawrth, i dde Cymru cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.

Roedd y ceir hyn yn gysylltiedig â grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn delio cyffuriau yn ardal Tonysguboriau. Bu farw Joanne Penney o ganlyniad i ymryson yn ymwneud â chyffuriau rhwng grwpiau troseddau cyfundrefnol o Gaerlŷr a de Cymru.

Gwnaeth ymchwiliad helaeth gan dîm Troseddau Mawr Heddlu De Cymru ganfod cyfanswm o 12 o bobl sydd wedi'u dyfarnu'n euog mewn cysylltiad, y cafwyd chwech ohonynt yn euog o lofruddiaeth ac fe'u dedfrydwyd heddiw.

 

Marcus Huntley with crest.png
Marcus Huntley
Jordan Mills-Smith with crest.png
Jordan Mills-Smith
Joshua Gordon.png
Joshua Gordon

 

Roedd Marcus Huntley, 21 oed, o Llaneirwg, Caerdydd, eisoes wedi pledio'n euog i lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp cyfundrefnol a chafodd ef ei ddedfrydu i'r carchar am ei oes gydag isafswm o 30 o flynyddoedd a 146 dydd, a dau o flynyddoedd a pump mis yn y carchar i'w treulio ar yr un pryd.

Cafodd Renaldo Baptiste, 39 oed o Lundain, ddedfryd am oes gydag isafswm o 42 o flynyddoedd am lofruddiaeth ar ôl y cafwyd ef yn euog. Roedd ef hefyd wedi pledio'n euog o'r blaen i gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol; am hyn fe'i dedfrydwyd i dau o flynyddoedd a 10 mis yn y carchar i'w treulio ar yr un pryd.

Kistina Ginova with crest.png
Kistina Ginova
Melissa Quailey-Dashper with crest.png
Melissa Quailey-Dashper

 

Dedfrydwyd Kistina Ginova, 23 oed o Swydd Gaerlŷr, i'r carchar am oes gydag isafswm o 10 mis am lofruddiaeth a 12 o flynyddoedd i'w treulio ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd hithau'n euog.

Dedfrydwyd Melissa Quailey-Dashper, 40 oed, o Gaerlŷr, i'r carchar am oes gydag isafswm o 14 o flynyddoedd am lofruddiaeth a 22 mis o flynyddoedd i'w treulio ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd hithau'n euog.

Cafodd Jordan Mills-Smith, 33 oed, o Gaerdydd ei ddedfrydu i'r carchar am oes gydag isafswm o 27 o flynyddoedd am lofruddiaeth ar ôl y cafwyd ef yn euog. Roedd ef hefyd wedi pledio'n euog o'r blaen i gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol; am hyn fe'i dedfrydwyd i dau o flynyddoedd a tri mis yn y carchar i'w treulio ar yr un pryd/yn olynol.

Cafodd Joshua Gordon, 27 oed, o Swydd Gaerlŷr, ei ddedfrydu i'r carchar am oes gydag isafswm o 32 o flynyddoedd am lofruddiaeth a 3 o flynyddoedd a 10 mis i'w treulio'n olynol/ar yr un pryd am gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol ar ôl y cafwyd ef yn euog.

Mae'r teulu wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:

"Mae colli Joanne wedi cael effaith aruthrol arnon ni fel teulu, ac rydyn ni'n parhau i fyw gyda hynny. Roedd yr achos o saethu a gymerodd ei bywyd oddi wrthym yn ddisynnwyr.
"Mae'r golled wedi gadael bwlch yn ein teulu ni am byth, ac wedi’i cholli hi fe fyddwn ni'n cario’r boen gyda ni bob dydd.
"Does dim byd sy'n gallu gwneud iawn am yr hyn sydd wedi cael ei gymryd oddi wrthym, na dod â Joanne yn ôl at ei hanwyliaid. 
"Roedd Joanne yn ferch, yn fam, yn chwaer ac yn nith, ac roedd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei charu. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu byth yn mynd yn angof.
"Hoffem ddiolch i'r heddlu am eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad a'u cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Rydym wedi gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn drwy'r cyfnod anodd hwn."

Joanne Penney.jpg
Joanne Penney

 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees:

"Mae ein meddyliau'n aros yn ddiwyro gyda theulu Joanne, sydd wedi dangos cryfder ac urddas eithriadol yn wyneb colled anhygoel. Cymerwyd bywyd Joanne mewn gweithred ddidrugaredd o drais, ac ni all unrhyw beth waredu'r boen y mae ei hanwyliaid yn ei theimlo o hyd.
"Mae'r achos hwn yn amlygu canlyniadau dinistriol troseddau cyfundrefnol. Gwnaeth y rhai hynny sy'n gyfrifol ddiystyru bywyd dynol a diogelwch ein cymunedau yn gyfan gwbl. Dyma rybudd plaen yn sgîl y ddedfryd hon - os byddwch chi'n dod â thrais, cyffuriau ac arfau tanio i dde Cymru, byddwn ni'n eich erlid yn ddi-baid, yn chwalu eich rhwydweithiau ac yn sicrhau eich bod yn wynebu holl ganlyniadau eich gweithredoedd.
"Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a'r staff sydd wedi bod yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ochr yn ochr â chydweithwyr o Wasanaeth Erlyn y Goron a'r cwnsler erlyn. Mae eu proffesiynoldeb, eu penderfyniad a'u ffocws wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder i Joanne a'i theulu.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino i amddiffyn ein cymunedau ac i ddal y rhai hynny sy'n gyfrifol am drais difrifol i gyfrif yn llawn."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.