Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae swyddogion wedi atafaelu 13 o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon ychwanegol yn ystod proses atafaelu ddiweddar yng Nghaerdydd.
Ddoe (dydd Iau, 26 Chwefror), cafodd swyddogion, ynghyd â phartneriaid o Gyngor Caerdydd, eu lleoli yn yr Eglwys Newydd, Trelái, Treganna, Glan yr Afon a chanol y ddinas.
Gwiriwyd mwy na 40 o e-feiciau yng nghanol y ddinas a gwelwyd mai ond 7 ohonynt oedd yn anghyfreithlon. Atafaelwyd cyfanswm o 13.
Gwaith partneriaeth parhaus yw hwn sy'n gweithio i dargedu e-feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon sy'n cael eu reidio'n beryglus yn ein trefi. Y mis diwethaf atafaelwyd 55 ohonynt mewn dau ddiwrnod yng Nghaerdydd.
Yn ystod yr ymgyrch ddydd Iau, cafodd un dyn ei arestio yn Nhrelái ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Cafodd pum person a oedd yn destun gwarant am fethu ag ymddangos gerbron y llys eu harestio hefyd.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell: “Dyma fwy o ganlyniadau gwych a fydd yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar aelodau'r cymunedau lleol lle mae reidio cerbydau anghyfreithlon ac oddi ar y ffordd yn beryglus ac yn wrthgymdeithasol yn tarfu ar eu bywydau yn barhaus.
“Mae brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o bileri allweddol Gwarant Plismona yn y Gymdogaeth gyda'r ymgyrch hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus yng Nghaerdydd i fynd i'r afael â'r broblem.”
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma – E-sgwteri ac e-feiciau: ateb eich cwestiynau| Heddlu De Cymru