Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu dyfarnu’n euog o droseddau cyffuriau yn dilyn ymchwiliad gan dîm troseddau cyfundrefnol difrifol Caerdydd a’r Fro.
Cafodd y tri dyn eu harestio ar 4 Mawrth 2026, ac fe gawsant eu dedfrydu i gyfanswm o 17 o flynyddoedd yn y sefydliad troseddwyr ifanc.
|
|
|
Plediodd Lewis Hannay, 20 oed o Ddinas Powys, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A - crac cocên, a chynllwynio i'w gwneud yn ofynnol i berson gyflawni llafur gorfodol neu dan orfod. Cafodd ei ddedfrydu i chwech o flynyddoedd a naw fisoedd yn y sefydliad troseddwyr ifanc.
Plediodd Smyler Tucker, 20 oed o'r Sblot, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A - crac cocên, cynllwynio i'w gwneud yn ofynnol i berson gyflawni llafur gorfodol neu dan orfod, bod â chyffur rheoledig o ddosbarth B - canabis - yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cafodd ei ddedfrydu i chwech o flynyddoedd yn y sefydliad troseddwyr ifanc.
Plediodd Muhammad Gulzar, 20 oed o Butetown, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A - crac cocên, cynllwynio i'w gwneud yn ofynnol i berson gyflawni llafur gorfodol neu dan orfod, bod â chyffur rheoledig o ddosbarth B – canabis - yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cafodd ei ddedfrydu i pump o flynyddoedd a tri fisoedd yn y sefydliad troseddwyr ifanc.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Tim Jones:
"Nid yn unig y canfuwyd bod gan y dynion hyn gyffuriau a'r offer i’w cyflenwi yn ein cymunedau, ond yr elw ariannol a gafwyd o’r gweithgarwch yma hefyd. Mae’r cyfan wedi cael ei atafaelu erbyn hyn.
“Yn ogystal â delio cyffuriau yn ein cymuned, roedd y dynion hyn yn cam-fanteisio ar fachgen ifanc yn ei arddegau drwy geisio ei orfodi i gymryd y risg wrth ddosbarthu cyffuriau er mwyn iddynt hwy elwa'n ariannol.
"Roedd hwn yn ymchwiliad trylwyr gan y tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ac, o ganlyniad, nid oedd gan Hannay, Tucker, a Gulzar ddim dewis ond pledio’n euog. Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
“Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.”
Mae'n hollbwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o gam-fanteisio ar blant ac yn annog y cyhoedd i fod yn effro i'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau fel y gallant adnabod yr arwyddion. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am y ffordd y mae rhywun yn cael ei drin i ffonio llinell gymorth caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio y DU ar 08000 121 700 neu ddefnyddio gwefan https://www.modernslaveryhelpline.org/
Neu gallwch roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu'r heddlu ar 101. Os bydd trosedd yn mynd rhagddi neu os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion cam-fanteisio ar blant, ewch i Cam-fanteisio troseddol ar blant | Cam-drin plant | Heddlu De Cymru