Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw yw Diwrnod y Rhuban Gwyn 2025
Mae unrhyw fath o drais yn erbyn menywod a merched yn annerbyniol, ac rydym yn parhau i weithio'n ddiflino gyda'n cymunedau a'n partneriaid i fynd i'r afael â'r mater ac i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n dioddefwyr, gan rymuso ein cymunedau i ddod yn fwy diogel ac yn gryfach.
Heddiw, mae'n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ac mae'r 16 diwrnod o weithredu sy'n dilyn yn ymgyrch sy'n gofyn i ddynion weithredu i atal trais yn erbyn menywod a merched.
Mae'r thema eleni yn annog dynion i herio achosion. Gallwch wneud addewid y Rhuban Gwyn yma.
Mae menywod a merched yn dioddef achosion o drais a cham-drin i raddau anghymesur, ac yn dioddef mwy dan ddwylo partner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu, a dieithryn weithiau. Rydym am annog dynion i ddwyn eu hunain i gyfrif i fenywod, ac i'w gilydd.
Ditectif Gwnstabl Tim Davies, Ditectif Ringyll Andrew Westlake a Ditectif Arolygydd Paul Graham yn trafod eu rolau a sut maent yn gweithio i ddarparu gofal gwell i ddioddefwyr.
Os oes angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, cysylltwch â ni, neu rywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef.