Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl darganfod cyllell yn ei feddiant pan gafodd ei stopio a'i chwilio
Cafodd Andrew Coleman, 48 oed, o Ravenhill, ei stopio ddydd Mawrth 18 Tachwedd wrth i swyddogion batrolio ar droed ar Bryn Road. Roedd ganddo ddwy fasged o eitemau yn ei feddiant wedi'u dwyn o archfarchnad gerllaw, ynghyd â chyllell Stanley las.
Dywedodd Coleman wrth y swyddogion ei fod yn cario'r gyllell “ar gyfer ei ddiogelwch ei hun.”
Ddydd Mercher, plediodd Coleman yn euog i ladrata a bod â llafn cyllell/eitem lafnog finiog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 21 wythnos yn y carchar.
Dywedodd PC Scott Morris:
“Wrth i swyddogion weithio i dynnu sylw at beryglon troseddau'n ymwneud â chyllyll yn ystod Wythnos Ddwysáu Ymgyrch Sceptre, mae achosion fel hyn yn tynnu sylw at y broblem bod pobl yn dal i gario cyllyll pan fyddant allan ar y strydoedd.
“Nid yw cario cyllell ‘ar gyfer eich diogelwch eich hun’, fel y dywedodd Andrew Coleman, yn esgus.
“Gall digwyddiadau sy'n ymwneud â chyllyll arwain at ganlyniadau erchyll. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi ein nodau o gadw De Cymru'n ddiogel rhag troseddau cyllyll.”
Gallwch ddysgu mwy am Ymgyrch Sceptre yma: Troseddau cyllyll | Heddlu De Cymru