Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall digwyddiadau lle y defnyddir cyllyll fod yn drychinebus. Nid yw troseddau’n ymwneud â chyllyll yn rhan o fywyd bob dydd yn Ne Cymru, ond rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gweithredu i atal problem rhag digwydd.
Ymgyrch Sceptre yw ein dull o fynd i’r afael â throseddau cyllyll, a phroblemau cysylltiedig – trais difrifol a chyffuriau anghyfreithlon.
Mae ein gwaith yn cynnwys ymgyrchoedd wedi’u targedu a gwaith ymgysylltu ac addysgu er mwyn tawelu meddyliau pobl ifanc eu bod yn fwy diogel heb gario cyllyll.
Rydym yn cydweithio â sefydliadau partner i gefnogi ein hamcanion i gadw De Cymru’n ddiogel rhag troseddau cyllyll.
Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cario cyllell neu’n ymwneud â chyffuriau, gallwch gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Dywedodd Uwch-arolygydd Esyr Jones:
“Mae lefelau troseddau'n ymwneud â chyllyll yn y DU wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw De Cymru yn wahanol i unrhyw le arall yn hynny o beth.
“Yn ffodus, mae lefelau troseddau o'r fath yn parhau yn is yma nac mewn ardaloedd eraill o'r DU ac, ar y cyfan, mae De Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio, a bod.
“Ond mae hyd yn oed un drosedd sy'n ymwneud â chyllyll yn ormod, felly mae mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan droseddau o'r fath yn flaenoriaeth lwyr i Heddlu De Cymru. Gall fod effeithiau erchyll yn sgil defnyddio cyllell. Mae angen i bobl sy'n cario un gofio sut y gall eu gweithredoedd effeithio arnyn nhw, ar bobl eraill, ar eu teulu a'u ffrindiau, ac ar y gymuned ehangach.
“Rydym yma i gadw pobl mor ddiogel â phosibl ac – o dan faner Ymgyrch Sceptre – mae ein timau yn gweithio'n galed bob dydd i roi sicrwydd i'n cymunedau ac i amharu ar y lleiafrif bach o bobl sy'n benderfynol o gario cyllyll, yn arbennig lle mae hyn yn peri risgiau i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Mae timau Ymgyrch Sceptre yn cael effaith gadarnhaol iawn, ac rydym hefyd yn arfer dulliau stopio a chwilio mewn modd teg a chymesur er mwyn sicrhau bod ein strydoedd mor ddiogel â phosibl.
“Fodd bynnag, rydym hefyd yn benderfynol o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddau'n ymwneud â chyllyll, ac rydym yn gweithio'n agos gydag Uned Atal Trais Cymru a phartneriaid eraill – gan gynnwys gwasanaethau addysg a safonau masnach – fel rhan o ddull iechyd y cyhoedd tuag at fater troseddau'n ymwneud â chyllyll, er mwyn atal pobl rhag cario cyllyll yn y lle cyntaf.
“Rydym hefyd yn ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned, gan gynnwys pobl ifanc, er mwyn tynnu sylw at y ffaith bod codi cyllell yn ddewis anghywir bob amser. Ni fydd cario cyllell yn eich amddiffyn: mewn gwirionedd, bydd yn eich gwneud yn llai diogel o lawer. Os bydd rhywun yn rhan o ddigwyddiad ac yn tynnu cyllell, mae'n bosibl y caiff y gyllell honno ei defnyddio yn eich erbyn. Yn lle hynny, y penderfyniad iawn yw peidio â chario cyllell yn y lle cyntaf.
“Meddyliwch am hyn os byddwch yn cario cyllell. Meddyliwch sut y byddech chi'n teimlo petai rhywun sy'n bwysig i chi yn eich gweld chi'n cario cyllell ac yn penderfynu gwneud yr un peth, ac yna pe bai rhywbeth yn digwydd iddo o ganlyniad i hynny. Meddyliwch sut y gallai eich dyfodol gael ei ddinistrio os cewch eich dal yn cario cyllell neu'n defnyddio un.
“Os oes gennych bryderon am droseddau'n ymwneud â chyllyll, neu os byddwch yn meddwl y gallai fod rhywun yn cario cyllell, mynnwch sgwrs ag ef. Gallwch hefyd siarad â ni os byddwch yn meddwl bod rhywun yn cario cyllell – gall fod yn anodd, ond bydd yn helpu i sicrhau na ellir defnyddio'r arf hwnnw i achosi niwed difrifol, neu waeth.
“Os byddai'n well gennych, gallwch gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw. Ni fydd Taclo'r Tacle fyth yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, ac ni fydd yn tracio eich dyfais. Ond drwy rannu gwybodaeth â'r heddlu neu â Taclo'r Tacle, gellwch helpu i gael gwared ar gyllell oddi ar y strydoedd ac, yn y pen draw, achub bywyd.”
Gallech chi fod yn ei thorri heb sylweddoli.
Mae’r canlynol yn anghyfreithlon:
Mae gan swyddogion yr heddlu yr hawl i stopio a chwilio unrhyw berson neu gerbyd os byddan nhw’n amau trosedd, gan gynnwys meddu ar arf tramgwyddus.
Gall y risg fod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cario cyllell neu’n cael ei effeithio gan droseddau’n ymwneud â chyllyll beri pryder a chodi llawer o gwestiynau.
Y ffordd orau o gadw pobl ifanc yn ddiogel yw siarad â nhw am y perygl.
Gall siarad fod yn anodd, ond daliwch ati. Efallai bod ofn ar eich mab neu’ch merch neu maen nhw’n amharod i siarad. Efallai eu bod nhw’n credu bod angen iddyn nhw gario cyllell am eu bod yn teimlo dan fygythiad.
Cadwch lygad am y canlynol:
Mae’n anghyfreithlon cario cyllell hyd yn oed ar gyfer eich diogelwch eich hun.
Gall yr heddlu, ac athrawon yn yr ysgol, chwilio unrhyw un yr amheuir ei fod yn cario cyllell.
Drwy gario cyllell, gallech gael cofnod troseddol neu hyd yn oed ddedfryd o garchar. Bydd hyn yn cael effaith ar ragolygon swyddi yn y dyfodol a ph’un a fyddwch chi’n gallu teithio dramor i rai gwledydd.
Mae cario cyllell yn cynyddu eich risg o gael eich anafu yn sylweddol. Gall eich cyllell chi eich hun gael ei defnyddio yn eich erbyn neu gall rywun ymosod arnoch mewn ‘hunanamddiffyniad’.
Sut fyddech chi’n teimlo petai brawd neu chwaer iau yn cario cyllell am eu bod wedi eich gweld chi yn gwneud hynny, a bod rhywbeth yn digwydd iddyn nhw o ganlyniad i hynny?
Gall defnyddio cyllell, hyd yn oed mewn hunanamddiffyniad, ddifetha eich bywyd yn ogystal â bywyd rhywun arall. Gall hyd yn oed bod yno pan fydd rhywun arall yn defnyddio cyllell olygu y byddwch chi mewn trafferth.
Cerddwch i ffwrdd os byddwch chi’n wynebu bygythiad o drais.
Dywedwch wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo – rhiant, athro, ffrind neu’r heddlu.
Os ydych chi'n poeni bod rhywun yn cario cyllell, rhowch wybod i ni neu gallwch siarad ag elusen Fearless yn ddienw.