Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd ef a'i dri chyd-droseddwr eu carcharu am gyfanswm o 22 mlynedd yn gynharach yr wythnos hon
Gwnaeth dyn o'r Barri werthu cyffuriau heb wybod bod tîm o dditectifs a oedd yn aros tu allan i'w dŷ yn gweld y cyfan.
Roeddent yn gwylio Jacob Kennedy, 20 oed, pan oeddent ar fin cynnal gwarant chwilio yn Nant Talwg Way, y Barri, ar 13 Awst 2023.
Gadawodd Kennedy yr eiddo ac aeth i mewn i gar a oedd yn aros, cyn gadael y car eiliadau'n ddiweddarach a dychwelyd i'r eiddo.
Gwnaeth swyddogion ei arestio bryd hynny - wrth iddynt chwilio drwy ei fflat, daethant o hyd i bron 60 gram o gocên pur iawn a 39 o dabledi ecstasi.
Atafaelwyd eitemau moethus fel esgidiau rhedeg Louis Vuitton, Gucci a Dior, hefyd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Dadansoddwyd ffonau a atafaelwyd o'r cyfeiriad a gwelwyd eu bod yn cynnwys tystiolaeth glir o ddelio cyffuriau.
Ym mis Awst 2025, daeth swyddogion a oedd yn chwilio dyfais symudol o hyd i linell cyffuriau 'Kenno'.
Yn fuan ar ôl hynny, arestiodd swyddogion Samantha Kennedy, 41 oed o Tennyson Road a Christine Doyle, 42 oed, o Ffordd Elin.
Wrth chwilio cartref Christine Doyle, atafaelwyd dwy sêff a oedd yn cynnwys swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a B gwerth £15,000.
Wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 28 Awst 2025 i gael ei ddedfrydu am droseddau delio cyffuriau o'i arestiad yn 2023, cafodd Kennedy ei ail-arestio am droseddau pellach.
Gwnaeth swyddogion hefyd arestio Robson Mallam, 22 oed o College Crescent, ac wrth gynnal chwiliad o'i gartref daethant o hyd i gyffuriau, arian parod a chloriannau digidol.
Ymddangosodd y pedwar ohonynt gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 18 Rhagfyr: Cafodd Jacob Kennedy, 20 oed, ei garcharu am naw mlynedd a chwe mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, yn ogystal â dau achos o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A; Cafodd Samantha Kennedy a Robson Mallam eu carcharu am bedair blynedd a deg mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B; a chafodd Christine Doyle ei charcharu am ddwy flynedd a deg mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, â deufis yn weithredol yn olynol, am dorri gorchymyn dedfryd ohiriedig.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, PC Owain Grandin: "Roedd Jacob Kennedy yn defnyddio Robson Mallam fel rhedwr i gyflenwi cyffuriau ar ei ran. Gwnaeth Samantha Kennedy a Christine Doyle ganiatáu i gyffuriau ac arian parod gael eu cadw yn eu tai a gwnaethant hwyluso trosglwyddiadau arian ar gyfer yr ymgyrch, ac roeddent yn ymwneud â chyflenwi symiau sylweddol o Gocên, MDMA, Cetamin a Chanabis yn y Barri. Mae cyflenwi cyffuriau yn peri diflastod yn ein cymunedau – rydym yn gweithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, felly parhewch i gysylltu â'r wybodaeth honno a chydweithio â ni.”
Dylai unrhyw un sy'n amau achos o ddelio cyffuriau gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw.
Cyffuriau wedi'u canfod mewn sêff yn ystod chwiliad gan swyddogion.