Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae aelodau teulu Joanne Penney, menyw 40 oed a fu farw ar ôl cael ei saethu yn Nhanysguboriau, wedi talu teyrnged iddi.
Gwnaethant ddweud:
"Rydym wedi ein llorio gan farwolaeth drasig ein Joanne annwyl. Roedd hi'n ferch, yn fam, yn chwaer ac yn nith, ac roedd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei charu. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu byth yn mynd yn angof.
"Yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru a dechrau prosesu'r golled enbyd. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chydymdeimladau'r gymuned ac rydym yn gofyn am i'n teulu gael cyfle i alaru.
"Byddem yn ddiolchgar pe gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth ei rhannu â thîm ymchwilio'r heddlu.
“Diolch am barchu ein dymuniadau.”
Mae'r pum person sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn y ddalfa o hyd.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ffilm, fel teledu cylch cyfyng neu dashcam, ei gyflwyno ar lein:https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C03-PO1
Fel arall, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500075709.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)