Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth Joanne Penney yn dilyn achos o saethu yn Nhonysguboriau nos Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Llys Illtyd am 6.10pm nos Sul, 9 Mawrth, lle cafodd Joanne ei chanfod wedi'i hanafu'n ddifrifol ar ôl iddi gael ei saethu yn y frest.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle. Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Joanne ar yr adeg hon, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi.
Mae dyn lleol, 42 oed, a gafodd ei arestio nos Sul, 9 Mawrth, yn y ddalfa o hyd.
Neithiwr, nos Fawrth 11 Mawrth, cafodd pedwar unigolyn arall eu harestio yn ardal Heddlu Swydd Gaerlŷr mewn cysylltiad â'r digwyddiad – menyw 21 oed o Oadby, Swydd Gaerlŷr; dyn 27 oed o Oadby, Swydd Gaerlŷr; dyn 68 oed o Braunstone Town, Swydd Gaerlŷr a menyw 39 oed o Gaerlŷr. Maent yn y ddalfa ar hyn o bryd a byddant yn cael eu holi.
Mae'r dyn 42 oed o Donysguboriau a gafodd ei arestio yn nalfa'r heddlu o hyd.
Mae safleoedd troseddau yn parhau i fod ar waith wrth i waith fynd rhagddo i gasglu tystiolaeth yn dilyn y digwyddiad ac mae ymholiadau i'r amgylchiadau yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes:
“Er bod yr arestiadau hyn yn ddatblygiad sylweddol, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne yn parhau ac mae gennym dîm o dditectifs profiadol a staff arbenigol yn gweithio'n galed i gadarnhau amgylchiadau'r digwyddiad ofnadwy hwn.”
O'r ymchwiliadau a gwblhawyd gennym hyd yma, gwyddom fod dau gerbyd – Nissan Note lliw beige anarferol (BK61 ZDC) a Volvo XC40 du (FD24 PZF) wedi teithio o ardal Caerlŷr rywbryd ar ôl 10.30am ddydd Sul, 9 Mawrth, i Dde Cymru cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Hughes:
“Mae angen gwybodaeth arnom am symudiadau'r cerbydau hyn a'r unigolion a oedd yn y cerbydau, gan gynnwys unrhyw ddeunydd dashfwrdd, yn arbennig gan gerbydau masnachol, ar gyfer unrhyw deithiau ddydd Sul. Cafodd y ddau gerbyd eu hatafaelu yn dilyn yr arestiadau neithiwr a byddant yn destun archwiliad fforensig.
“Er bod gennym dimau o swyddogion yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn ymchwilio i ddeunydd o gamerâu teledu cylch cyfyng, rwyf hefyd yn apelio am unrhyw ddeunydd dashfwrdd neu ddeunydd camera teledu cylch cyfyng o ardal Llys Illtyd a'r parc manwerthu cyfagos rhwng 5.30pm a 6.30pm ddydd Sul 9 Mawrth a allai ddangos y cerbydau hyn ac unrhyw dystion.
“Mae'r ymchwiliad wedi datblygu'n gyflym, ac rydym yn gweithio'n galed i gadarnhau cymhelliad dros ladd Joanne. Rydym yn ystyried sawl llinell ymholi, gan gynnwys y posibilrwydd ei bod hi wedi dioddef achos o gam-adnabod.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am farwolaeth Joanne neu am yr hyn a ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i wneud y peth iawn a chysylltu â ni – gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hollbwysig.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo, fel deunydd o deledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd, ei chyflwyno/gyflwyno ar-lein yma.
Fel arall, gallwch gysylltu â ni, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500075709.
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein.
Prif Uwch-arolygydd Steve Jones:
Noswaith dda bawb, Prif Uwch-arolygydd Steve Jones ydw i, a fi yw comander plismona'r ardal hon.
Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes:
Fi yw Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru.
Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein hymchwiliad i lofruddiaeth Joanne Penney ar ôl iddi gael ei saethu yn Nhonysguboriau nos Sul.
Galwyd yr heddlu i gyfeiriad yn Llys Illtyd am 6.10pm ddydd Sul lle y daethpwyd o hyd i Joanne a oedd wedi'i hanafu'n ddifrifol ar ôl cael ei saethu yn ei brest.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle. Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Joanne ar yr adeg hon a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi.
Mae dyn lleol 42 oed a gafodd ei arestio nos Sul yn nalfa'r heddlu o hyd.
Neithiwr, cafodd dau ddyn arall a dwy fenyw eu harestio yn ardal Heddlu Swydd Gaerhirfryn. Maen nhw yn y ddalfa ar hyn o bryd a byddan nhw'n cael eu holi.
Er bod yr arestiadau yn ddatblygiad pwysig, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne yn dal i fynd rhagddo ac mae gennym dîm o dditectifs profiadol a staff arbenigol sy'n gweithio'n galed i gadarnhau amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn.
Ar sail ein hymchwiliadau hyd yma, gwyddom fod dau gerbyd – Nissan Note gyda lliw nodedig beige a Volvo XC40 du – wedi teithio o ardal Caerlŷr ar ôl 10.30am ddydd Sul i Dde Cymru cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.
Mae angen i ni gael gwybodaeth am symudiadau'r cerbydau hyn a'r rhai a fu'n teithio ynddynt, gan gynnwys unrhyw ddeunydd fideo o gamerâu dashfwrdd, yn enwedig o gerbydau masnachol, ar gyfer unrhyw deithiau ddydd Sul. Atafaelwyd y ddau gerbyd yn dilyn arestiadau neithiwr a byddan nhw'n destun archwiliad fforensig.
Er bod gennym dimau o swyddogion yn gwneud ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn archwilio deunydd CCTV, rwyf hefyd yn apelio am unrhyw ddeunydd camera dashfwrdd neu CCTV o amgylch Llys Illtyd a'r parc manwerthu cyfagos rhwng 5.30pm a 6.30pm a allai fod wedi dal y cerbydau hyn ac unrhyw dystion.
Mae'r ymchwiliad wedi mynd rhagddo'n gyflym ac rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i gymhelliad dros ladd Joanne. Rydym yn dilyn sawl llinell ymholi, gan gynnwys y posibilrwydd mai achos o gam-adnabod unigolyn oedd ei llofruddiaeth.
Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am farwolaeth Joanne neu'r hyn a ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i wneud y peth iawn a chysylltu â'r heddlu – gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hanfodol bwysig.
Diolch.
Prif Uwch-arolygydd Steve Jones:
Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad hyd yma.
Rwy'n deall y bydd digwyddiad fel hwn yn achos cryn bryder i drigolion lleol.
Byddwch yn gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal, fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne ac er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned.
Diolch i chi, foneddigion a boneddigesau.