Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth menyw 40 oed yn ardal Tonysguboriau nos Sul 9 Mawrth 2025.
Cafodd swyddogion alwad nos Sul am 6.10pm yn nodi achos o saethu yn Llys Illtyd.
Roedd swyddogion a pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bresennol yn y lleoliad.
Daethpwyd o hyd i fenyw 40 oed yn dioddef o anafiadau difrifol. Ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cafodd ei datgan yn farw yn y fan a lle.
Er na chynhaliwyd gweithdrefn adnabod ffurfiol eto, credwn mai Joanne Penney, 40 oed, yw'r dioddefwr. Rhoddwyd gwybod i'w pherthnasau agosaf, ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Gofynnwn i chi barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'r dyn 42 oed o Donysguboriau a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn nalfa'r heddlu o hyd.
Mae safleoedd troseddau yn parhau i fod ar waith wrth i waith fynd rhagddo i gasglu tystiolaeth yn dilyn y digwyddiad ac mae ymholiadau i'r amgylchiadau yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes:
“Hoffwn sicrhau'r gymuned leol bod tîm o dditectifs profiadol a staff arbenigol yn parhau i weithio'n gyflym i greu darlun o'r digwyddiadau neithiwr, gan gynnwys adfer deunydd teledu cylch cyfyng.
“Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â deunydd o gamera dashfwrdd o deithiau yn ardal Tonysguboriau rhwng 5.30pm a 6.30pm ddydd Sul 9 Mawrth i'w gyflwyno yma: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C03-PO1
“Rwy'n deall y bydd y rhai sy'n byw yn Nhonysguboriau yn bryderus a bydd preswylwyr yn gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal fel rhan o'r ymchwiliad ac i roi tawelwch meddwl i'r gymuned.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo, fel deunydd o deledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd, ei chyflwyno/gyflwyno ar-lein: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C03-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500075709.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)