Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn saethiad angheuol yn Nhonysguboriau.
Cafodd Heddlu De Cymru alwad neithiwr, nos Sul 9 Mawrth, am 6.10pm yn nodi achos o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.
Roedd swyddogion a pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bresennol yn y lleoliad.
Daethpwyd o hyd i fenyw 40 oed yn dioddef o anafiadau difrifol. Ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cafodd ei datgan yn farw yn y fan a lle.
Mae dyn 42 oed o Donysguboriau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Mae nifer o safleoedd troseddau wedi cael eu gosod yn yr ardal ac mae ffyrdd yn parhau ar gau wrth i waith fynd rhagddo i gasglu tystiolaeth yn dilyn y saethu ac mae ymholiadau i'r amgylchiadau yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd James Morris:
“Rwy'n deall y pryder y bydd hyn yn ei achosi yn y gymuned leol, a hoffwn roi sicrwydd i bobl bod tîm o dditectifs profiadol eisoes yn gweithio'n gyflym i greu darlun o'r digwyddiadau neithiwr.”