Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd deliwr cyffuriau o Gaerdydd, a gafodd ei ddarganfod gan swyddogion gyda'i geg yn llawn cyffuriau, ei garcharu yn gynharach yr wythnos hon.
Cafodd Kaine James ei arestio ar 26 Tachwedd (2024) pan weithredodd swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro warant chwilio yn ei gartref.
Cuddiodd James grac cocên a heroin yn ei geg wrth i swyddogion dorri i mewn - gwnaethant weithredu'n gyflym i atal y deliwr cyffuriau rhag llyncu'r cymysgedd angheuol o gyffuriau yn ddamweiniol, sydd wedi'i ddal ar fideo camera a wisgir ar y corff.
Yn ystod chwiliad o'i gartref, daeth swyddogion o hyd i £2,000 mewn ystafell wely ynghyd â ffôn symudol yr oedd yn ei ddefnyddio i redeg dwy linell gyffuriau. Datgelodd negeseuon ar ei ffôn iddo anfon 1,762 o negeseuon yn cynnig cyffuriau Dosbarth A mewn dim ond pythefnos.
Cafodd James, o Trecinon Road, Tredelerch, Caerdydd ei gyhuddo ac aeth ymlaen i bledio'n euog o fod â chrac cocên a heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ymwneud â chyflenwi'r cyffuriau hynny, a chaffael eiddo troseddol, sef arian.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher 12 Mawrth. Mae'r arian wedi cael ei atafaelu dan y Ddeddf Enillion Troseddau.