Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am gyflawni troseddau trais domestig.
Gwelodd cymdogion Christian Read, 34 oed o Clase, yn ymosod ar ei ddioddefwr ar y stryd ar noson 24 Chwefror. Gadawodd yr ymosodiad gleisiau ar wyneb a breichiau'r dioddefwr.
Daethpwyd o hyd i Read yn ddiweddarach yn cuddio o dan flanced a bagiau yn atig yr eiddo. Parhaodd i ymddwyn yn dreisgar wrth i swyddogion ei arestio.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 14 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Victoria Bayly:
“Mae Christian Read yn ddyn treisgar iawn a adawodd ei ddioddefwr yn llawn ofn o'r hyn y byddai'n ei wneud nesaf.
“Mae'r ffaith ei fod wedi cyflawni'r trais hwn ar y stryd yn dweud y cyfan am yr hyn y gallai ei wneud tu ôl i ddrysau caeëdig.
“Mae bellach yn dechrau dedfryd o garchar, a gall ei ddioddefwr ddechrau ei broses adfer.”
Am ragor o wybodaeth am ein dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gweler yma: Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched: Datganiad Plismona Cenedlaethol 2024 | Heddlu De Cymru