Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae unigolyn yn ei arddegau a aeth ar ffo ar ôl llofruddio tad i saith, Colin Richards, yn Nhrelái, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am oes.
Aeth Corey Gauci ar ffo ar ôl llofruddio tad i saith, Colin Richards yn Nhrelái, Caerdydd.
Ar ôl chwilio am dair wythnos, yn cynnwys nifer o luoedd eraill, cafodd Gauci a'i gyd-droseddwr James O'Driscoll eu harestio yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford.
Heddiw (Dydd Gwener, 23 Mai), cafodd Gauci, 19 oed, ei ddedfrydu i garchar am oes a dywedwyd wrtho y bydd yn rhaid iddo aros yn y carchar am o leiaf 24 o flynyddoedd cyn cael ei ystyried i gael ei ryddhau.
Roedd Gauci wedi gwadu llofruddio ac anrhefn dreisgar, ond fe'i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl treial chwe wythnos.
Cafodd Colin Richards, dyn 48 oed o Grangetown, ei ganfod yn anymwybodol yn dilyn adroddiad am aflonyddwch yn ardal Heol-y-Berllan yng Nghaerau, Caerdydd, fis Ebrill diwethaf.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, fu farw, o ganlyniad i glwyf trywanu angheuol i'w glun.
Mae pum person arall hefyd wedi cael eu dedfrydu am eu rhan ym marwolaeth Mr Richards:
Cafodd James O'Driscoll, 27 oed, heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu i 4 am anrhefn dreisgar a bod ag eitem lafnog yn ei feddiant.
Cafodd Noreen O'Driscoll, 29 oed o Drelái, ei dedfrydu i 3 am gynorthwyo troseddwr.
Cafodd Rebecca Ross, 44 oed o Lincoln, ei dedfrydu i 2 am gynorthwyo troseddwr a bod ag eitem lafnog yn ei meddiant.
Cafodd Soraya Somersall, 44 oed o Butetown, ei dedfrydu i 2.5 am gynorthwyo troseddwr.
Cafodd Christian Morgan, 36 oed o ardal Caerau, ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd, am fod ag eitem lafnog yn ei feddiant.
Yn flaenorol, clywodd y llys i'r trais ddatblygu yn dilyn anghytundeb rhwng Christian Morgan, ffrind Colin Richards a'r diffynyddion eraill.
Roedd Morgan wedi derbyn negeseuon bygythiol a sarhaus gan ei gyn-gariad Noreen O'Driscoll, chwaer James O'Driscoll.
Arweiniodd hyn at bresenoldeb y diffynyddion yn ardal Heol Berllan nos Sul, 7 Ebrill, 2024, pan ddechreuodd y digwyddiad treisgar a arweiniodd at Mr Richards yn cael ei anafu'n angheuol.
Aeth Gauci ac O'Driscoll ar ffo ac 20 diwrnod yn ddiweddarach, cawsant eu harestio yn Stoke-on-Trent, Swydd Stafford ar 27 Ebrill 2024. Roedd ditectifs Heddlu De Cymru yn bresennol yn yr arestiad a chludwyd y ddau unigolyn dan amheuaeth yn ôl i Gaerdydd lle cyfwelwyd â nhw, a chawsant eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd Colin yn dad, tad-cu, mab a brawd.
"Mae ei farwolaeth drasig wedi gadael saith o blant heb dad, ac maent yn parhau i'w golli'n fawr. Rydym yn meddwl am deulu Colin heddiw fel yr ydym wedi gwneud drwy gydol yr amser.
“Hoffem ddiolch i'r holl dystion a gynorthwyodd gyda'r ymchwiliad, y tîm erlyn, a chydweithwyr yr heddlu o Swydd Stafford, Swydd Warwig, Swydd Gaerlŷr, a Gorllewin Canolbarth Lloegr."