Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei euogfarnu o lofruddio tad-cu annwyl iawn o Gaerdydd.
Cafodd Colin Richards, dyn 48 oed o Grangetown, ei ganfod yn anymwybodol yn dilyn adroddiad am aflonyddwch yn ardal Heol-y-Berllan yng Nghaerau, Caerdydd, fis Ebrill diwethaf.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, fu farw, o ganlyniad i glwyf trywanu angheuol i'w glun.
Gwadodd Corey Gauci, 19 oed, i lofruddiaeth ac anrhefn dreisgar ond yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Ddydd Mercher, 9 Ebrill) cafodd ei ganfod yn euog.
Rhoddodd y rheithgor reithfarnau ar bump arall hefyd:
Clywodd y llys i'r trais ddatblygu yn dilyn anghytundeb rhwng Christian Morgan, ffrind Colin Richards a'r diffynyddion eraill.
Roedd Morgan wedi derbyn negeseuon bygythiol a sarhaus gan ei gyn-gariad Noreen O'Driscoll, chwaer James O'Driscoll.
Arweiniodd hyn at bresenoldeb y diffynyddion yn ardal Heol Berllan nos Sul, 7 Ebrill, 2024, pan ddechreuodd y digwyddiad treisgar a arweiniodd at Mr Richards yn cael ei anafu'n angheuol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd Colin yn dad, tad-cu, mab a brawd.
“Mae ei farwolaeth drasig wedi gadael saith o blant heb dad, ac maent yn parhau i'w golli'n fawr. Rydym yn meddwl am deulu Colin heddiw fel yr ydym wedi gwneud drwy gydol yr amser.
“Hoffem ddiolch i'r holl dystion a gynorthwyodd gyda'r ymchwiliad, yn ogystal â'r tîm erlyn.”
Disgwylir iddynt gael eu dedfrydu ar 23 Mai.