Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ei rôl yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Sean Rowles sy'n 28 oed, o ganol y ddinas, ei stopio gan swyddogion yn Uplands ar 16 Ebrill lle canfuwyd bod ganddo ffôn symudol yn ei feddiant a oedd yn gysylltiedig â negeseuon testun parhaus ynglŷn â chyffuriau.
Wedyn, cafodd ei roi yn y ddalfa, lle daethpwyd o hyd i fag yn cynnwys carreg fawr wen a phowdr wedi'i guddio yn ei ddillad isaf. Yn ddiweddarach, profwyd bod y powdr yn grac cocên.
Plediodd Rowles yn euog i fod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant â'r bwriad o'i gyflenwi ac mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Corey Morris:
"Roedd Sean Rowles yn gwybod ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A, ond roedd mor benderfynol o osgoi'r canlyniadau fel ei fod wedi ceisio honni bod y cyffuriau yn eiddo i'w bartner.
"Fel unrhyw ddeliwr cyffuriau arall, mae Sean yn unigolyn hunanol sydd ond yn poeni am ei enillion ariannol ac nid am yr effaith y mae'r cyffuriau y mae'n eu cyflenwi yn ei chael ar y gymuned ehangach.
"Nid oes lle i ddeliwr cyffuriau fel Sean yn ein cymdeithas, ac mae bellach yn dechrau ei ddedfryd hir yn y carchar."