Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu ar ôl gyrru ei gerbyd yn fwriadol i mewn i ddyn arall, gan adael ei ddioddefwr ag esgyrn ei benglog wedi torri a gwaedlif ar yr ymennydd.
Hefyd, gwnaeth Mitchel Jones, 18 oed o Dreforys, adael ei ddioddefwr ag esgyrn ei fraich chwith wedi'u torri yr oedd angen llawdriniaeth i'w trin ar ôl ei daro.
Yna, gyrrodd i ffwrdd yn dilyn y digwyddiad.
Ar ôl pledio'n euog i achos o yrru'n beryglus ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a thri mis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville:
"Mae'n amlwg bod Mitchel Jones yn ddyn ifanc penboeth sydd wedi taflu blynyddoedd gorau ei fywyd i ffwrdd oherwydd ei weithredoedd cywilyddus.
"Ni ddangosodd unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd, nac am y niwed parhaus a achosodd i'w ddioddefwr. Gyrrodd i ffwrdd heb ystyried llesiant y dioddefwr o gwbl.
"Bydd nawr yn treulio cyfnod sylweddol oddi ar y strydoedd – ond ni fydd hynny'n rhoi llawer o dawelwch meddwl i'r dioddefwr a'i deulu."