Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ymosod yn dreisgar ar ddau berson gwahanol mewn digwyddiadau ar wahân â bwlch o chwe mis rhyngddynt.
Rhoddodd Korben Crocker, 23 oed o Dreforys, sylw digroeso i fenyw mewn bar ar Wind Street yn Abertawe yn ystod noson allan yn oriau mân bore Sul, 31 Mawrth 2024. Yna, ymosododd yn dreisgar ar gariad y fenyw pan ofynnwyd iddo beidio.
Torrwyd gên y dioddefwr yn ystod yr ymosodiad a bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth i osod platiau metel yn ei ên.
Yn ddiweddarach yn 2024, ymosododd Crocker ar gyn-bartner gan achosi i'w llygaid a'i gwefusau chwyddo a gadael toriadau mewn sawl lle ar ei phen. Yna, ffodd o gartref y dioddefwr.
Er iddo bledio'n ddieuog i'r ddwy drosedd, cafwyd Crocker yn euog yn Llys y Goron Abertawe ac mae bellach wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Kelly Richards:
“Mae Korben Crocker yn ddyn ifanc treisgar nad yw'n gallu rheoli ei dymer, ac sydd hefyd yn ymfalchïo yn yr anafiadau y mae'n eu hachosi i'w ddioddefwyr fel petaent yn rhyw fath o anrhydedd iddo.
“Ni ddylai'r anafiadau hyn fod yn destun balchder i Korben – maen nhw wedi arwain at ei ddedfrydu i flynyddoedd yn y carchar. Nid oes lle i bobl dreisgar fel Korben mewn cymdeithas, ac mae'n braf gweld y bydd yn cael ei garcharu.
“Rwy'n gobeithio bod ei ddau ddioddefwr yn fodlon ar ganlyniad y llys ac y byddant yn cael cysur o wybod na all Korben achosi unrhyw niwed pellach iddynt.”
I gael cyngor ar gam-drin domestig a sut i roi gwybod amdano, gweler yma: Cyngor ar gam-drin domestig | Heddlu De Cymru