Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu yn dilyn llofruddiaeth Kelvin Evans yn ardal Gorseinon y llynedd.
Gwnaeth Christopher Cooper, 39 oed, o'r Ardal Forol, daro Mr Evans yn ei ben unwaith y tu allan i'r Station Hotel, ar Stryd Fawr Gorseinon ar 26 Mai 2024.
Cafodd y dioddefwr ei fwrw'n anymwybodol ar unwaith a'i gludo i'r ysbyty, ond gwaethygodd ei gyflwr, a bu farw ar 26 Mehefin.
Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad ond yn ddiweddarach fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth.
Cafwyd partner Cooper, Tracy Francis, sy'n 54 oed o Lanelli, yn euog o gynorthwyo troseddwr i osgoi cael ei arestio neu gael ei erlyn.
Heddiw cafodd Christopher Cooper ddedfryd am oes gyda chyfnod o 16 mlynedd o leiaf a chafodd Tracy Francis ei dedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt:
"Rydym yn falch o weld bod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni yn y llys.
“Mae Kelvin Evans wedi colli ei fywyd o ganlyniad i ymosodiad disynnwyr Christopher Cooper ac mae wedi cael effaith ddifrifol ar fywydau ei deulu a'i ffrindiau. Dylai Kelvin Evans fod wedi gallu dychwelyd adref yn ddiogel i'w deulu yn dilyn noson allan ar nos Sul ym mis Mai y llynedd. Yn lle hynny, ni fydd ei deulu byth yn gallu anghofio'r noson honno. Rwy'n gobeithio y bydd dedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt, ac y gallant nawr ddechrau galaru am golled Kelvin.
“Yn y cyfamser, dylid ystyried dedfryd Tracy Francis fel rhybudd yn erbyn helpu troseddwyr i osgoi cyfiawnder – ni fydd hyn yn gweithio a bydd ond yn arwain at ddwyn y cynorthwywyr o flaen eu gwell hefyd.
“Hoffwn ddiolch i'r landlord, y staff, a chwsmeriaid rheolaidd y Station Hotel, Gorseinon a aeth i helpu Kelvin yn dilyn yr ymosodiad ac a gynorthwyodd ymchwiliad yr Heddlu.
“Mae cymryd cyffuriau ac yfed gormod o alcohol yn effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau. Gall wneud i bobl fod yn agored i niwed neu eu gwneud yn droseddwyr. Fel y dangoswyd yn yr achos hwn a llawer o achosion eraill yn y gorffennol, gall dim ond un ergyd gael effaith sy'n newid bywydau'r troseddwr a'r dioddefwr. Mewn eiliad, gall rhywun ddod yn llofrudd, a gall rhywun gael ei ladd.
“Os byddwch yn gweld eich hun yn y sefyllfa hon byth, byddem yn eich annog i gymryd cam yn ôl, a cherdded i ffwrdd.”