Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i ganfod yn euog o lofruddio Kelvin Evans yn gynharach eleni.
Gwnaeth Christopher Cooper, 39 oed, o'r Ardal Forol, daro Mr Evans yn ei ben unwaith y tu allan i'r Station Hotel, ar Stryd Fawr Gorseinon ar 26 Mai.
Cafodd y dioddefwr ei fwrw'n anymwybodol ar unwaith a'i gludo i'r ysbyty, ond gwaethygodd ei gyflwr, a bu farw ar 26 Mehefin.
Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad ond mae bellach wedi'i ganfod yn euog o lofruddiaeth.
Mae partner Cooper, Catherine Francis, 54 oed o Lanelli, hefyd wedi'i chanfod yn euog o gynorthwyo troseddwr i osgoi cael ei arestio a'i erlyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt:
"Rydym yn falch o weld bod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni yn y llys. Mae dyn wedi colli ei fywyd o ganlyniad i drais Christopher Cooper, ac ni fydd teulu'r dioddefwr byth yn anghofio'r profiad trawmatig hwn."
Bydd Christopher Cooper a Catherine Francis yn cael eu dedfrydu ar 3 Ionawr.