Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl iddynt gael eu canfod yn euog o lofruddio Andrew Main, 33 oed, yng nghanol dinas Abertawe y llynedd.
Yr wythnos hon, cafwyd Joseph Dix, 26 oed o Ffraw, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 28 oed o Gaerfaddon, Gwlad yr Haf, yn euog i achos o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad, a ddigwyddodd ar Princess Way ar 17 Gorffennaf 2024.
Bu farw Andrew Main, o Falkirk yn yr Alban, o'i anafiadau ar 14 Awst heb iddo ddod ato'i hun.
Cafodd Joseph Dix a Macauley Ruddock eu dedfrydu i garchar am oes a byddant yn y carchar am o leiaf 13 o flynyddoedd a 176 o ddiwrnodau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton:
“Rydym yn falch o glywed bod Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi'u cael yn euog o lofruddiaeth.
“Roedd y ddau ddyn, yn ogystal ag Andrew Main, yn ymweld ag Abertawe gyda'u gwaith. Roedd y tri yn aros yn yr un gwesty yng nghanol y ddinas, a gwnaethant gyfarfod â'i gilydd am y tro cyntaf mewn bar gerllaw. Yn ddiweddarach y noson honno, ar ôl dychwelyd i'r gwesty, dechreuodd Joseph Dix a Macauley Ruddock ac Andrew Main a'i ffrind Michael Bell ddadlau. Symudodd y ddadl hon i'r stryd, cyn i Dix a Ruddock redeg ar ôl Andrew Main, gan ei daro yn anymwybodol cyn ymosod arno yn barhaus.
“Er bod pob un ohonynt wedi bod yn yfed alcohol y noson honno, nid yw hynny'n rhoi esgus am lefel y trais a ddangosodd Joseph Dix a Macauley Ruddock. Roeddent yn amlwg am achosi anaf difrifol i'w dioddefwr, a byddant yn wynebu dedfryd o garchar am gyfnod sylweddol am eu gweithredoedd.
“Rydym yn parhau i feddwl am deulu a ffrindiau Andrew sydd wedi torri eu calonnau yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd ac sy'n parhau i alaru o'i golli.
“Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at sut y gall effeithiau alcohol effeithio'n negyddol ar ymddygiad a'r gallu i wneud penderfyniadau. Pe bai Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi dewis cerdded i ffwrdd y noson honno, byddai hynny wedi achub bywyd, ac ni fyddent yn llofruddion euogfarnedig.”