Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae defnydd arloesol Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau er mwyn helpu i adnabod unigolion dan amheuaeth a chadw ein strydoedd yn fwy diogel wedi cael ei gydnabod drwy wobr blismona genedlaethol.
Mae'r system adnabod wynebau a gychwynnir gan weithredwr (OIFR) a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, yn helpu swyddogion yr heddlu i gadarnhau hunaniaeth unigolyn anhysbys y maent yn amau sydd ar goll, yn wynebu risg uniongyrchol o niwed difrifol neu y mae'r heddlu yn chwilio amdano, pan fydd yr unigolyn hwnnw yn methu rhoi manylion, yn gwrthod rhoi manylion neu'n rhoi manylion anghywir.
Gall OIFR hefyd gael ei ddefnyddio ar rywun sydd wedi marw neu sy'n anymwybodol – gan alluogi swyddogion i'w adnabod fel y gallant gysylltu â'i deulu yn gyflym.
Cafodd y defnydd o'r system ei gydnabod gyda'r wobr am Arloesedd wrth Gymhwyso Gwyddoniaeth, Technoleg neu Ddatrysiadau Digidol fel rhan o Waith Plismona Rheng Flaen yn Uwchgynhadledd Arloesi a Digidol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu neithiwr. Cafodd heddluoedd ar draws y wlad eu cydnabod yn y seremoni am amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol sydd wedi helpu i gefnogi gwaith yr heddlu.

Fel ap ar ffonau gwaith swyddogion yr heddlu, mae technoleg adnabod wynebau a gychwynnir gan weithredwr wedi helpu i adnabod troseddwyr sydd wedi gwrthod rhoi manylion neu sydd wedi rhoi gwybodaeth ffug.
Roedd hyn yn cynnwys dyn y canfuwyd bod Gwarant Arestio Ewropeaidd wedi cael ei chyflwyno ar ei gyfer 12 mlynedd yn ôl am gyflenwi cyffuriau ac ymosod ar swyddog yr heddlu dramor, a gafodd ei adnabod drwy ddefnyddio llun a oedd yn 13 mlwydd oed.
Ni all OIFR gael ei ddefnyddio mewn ffordd gudd i adnabod pobl. Mae profion annibynnol hefyd wedi cael eu gwneud er mwyn cadarnhau nad oes unrhyw duedd y gellir ei nodi ar sail hil, rhywedd neu oedran gydag OIFR.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, sydd hefyd yn Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesedd:
“Mae ein henillwyr yn cynrychioli plismona o'r radd flaenaf a hoffwn longyfarch pob un ohonynt am eu gwaith, eu harloesedd a'u hymroddiad.
“Mae diwygio'r heddlu wedi bod yn thema allweddol yn y gynhadledd hon – a dim ond drwy gydnabod ein pobl, hyrwyddo eu rhagoriaeth a datblygu ein gwasanaeth fel ei fod yn croesawu technoleg newydd er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein cymunedau a'n gweithlu y gall hyn ddigwydd.
“Mae gwaith anhygoel yn digwydd ar draws y maes plismona, a'n cyfrifoldeb ni fel arweinwyr yw sicrhau ein bod yn adnabod yr arloesedd hwn ac yn sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf ym mhob rhan o'r wlad.”