Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae OIFR yn defnyddio Technoleg Adnabod Wynebau (FRT) ar ffôn symudol, sy'n cymharu llun o wyneb rhywun, sydd wedi ei dynnu ar ffôn symudol swyddogol yr heddlu, â'r Gronfa Ddata Cyfeirio Delweddau sydd wedi ei phennu ymlaen llaw er mwyn helpu swyddog i adnabod rhywun at ddiben plismona.
Gall swyddogion ddefnyddio'r ap symudol OIFR i gadarnhau hunaniaeth unigolyn anhysbys y maent yn amau sydd ar goll, unigolyn sy'n wynebu risg uniongyrchol o niwed difrifol neu rywun y mae'r heddlu yn chwilio amdano, pan fydd yr unigolyn hwnnw yn methu rhoi manylion, yn gwrthod rhoi manylion neu'n rhoi manylion anghywir. Gall OIFR hefyd gael ei ddefnyddio ar rywun sydd wedi marw neu sy'n anymwybodol – gan alluogi swyddogion i'w adnabod fel y gallant gysylltu â'i deulu yn gyflym.
Na, mae OIFR yn adnodd plismona agored. Dylid defnyddio OIFR ar ôl ceisio ymgysylltiad rhwng y Swyddog â'r unigolyn anhysbys.
Dangosodd profion annibynnol gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol fod OIFR 100% yn gywir ac yn dychwelyd y gyfatebiaeth gywir fel y canlyniad uchaf bob tro ar gyfer unigolion yn y gronfa ddata.
Yn ôl y gosodiadau trothwy rydym yn eu defnyddio, os na fydd yr unigolyn yn y gronfa ddata, ni fydd yn dychwelyd unrhyw gyfatebiadau.
Nac oes. Mae profion annibynnol wedi cael eu gwneud er mwyn cadarnhau nad oes unrhyw duedd y gellir ei nodi ar sail hil, rhywedd neu oedran gydag OIFR.
Nac ydy, nid system OIFR sy'n gwneud y penderfyniadau. Mae swyddogion yn cael hyfforddiant penodol ar ddefnyddio OIFR a dylent wneud ymholiadau rhesymol yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir iddynt, er mwyn pennu a oes cyfatebiaeth. Yn y pen draw, y swyddog fydd yn penderfynu a yw'r canlyniad a gafwyd yn gyfatebiaeth gywir.
Nid yw ap OIFR yn addasu cyfrifoldebau swyddogion i gynnal ymchwiliadau yn ddiduedd a heb ofn na ffafriaeth.
Nid yw ap OIFR yn newid galluedd swyddog i ymgysylltu ag aelod o'r cyhoedd, hynny yw fel rhan arferol o ymchwiliad neu fel llinell gwestiynu sy'n benodol i benderfynu ar ffeithiau digwyddiad neu ymchwiliad.
Mae OIFR yn cefnogi swyddogion i adnabod unigolion at ddiben plismona lle y mae'n bodoli (gweler dogfennaeth OIFR am ragor o wybodaeth) ond dylid ond ymgymryd ag ef lle mae cyfleoedd rhesymol eraill i adnabod unigolyn wedi cael eu gwneud.
Mae swyddogion yn cael hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio OIFR, hawliau preifatrwydd a disgwyliadau ac effeithiau ar hawliau dynol wrth ddefnyddio dull adnabod wynebau.
Mae ap OIFR wedi cael ei ddylunio i hyrwyddo defnydd teg a chyfrifol gan swyddogion. Ei ddiben yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel, gan nodi troseddwyr difrifol ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed.
Mae'r data sy'n dal demograffeg, amgylchiadau a chanlyniadau yn hyrwyddo tryloywder, dangos effeithiolrwydd, cymesuredd a chydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau.
Caiff yr holl luniau a gwybodaeth fiometreg a gesglir eu dileu o'r ap yn awtomatig, heb opsiwn i'w hadfer. Mae'r unig ddata a gedwir gan yr ap yn ymwneud â dal data er mwyn caniatáu craffu ar amgylchiadau a chyfiawnhad i'w defnyddio gan swyddogion, data demograffeg er mwyn monitro ar gyfer anghymesuredd posibl o ddefnydd, a chanlyniadau er mwyn penderfynu a yw plismona yn cael budd o OIFR.
Bydd OIFR ond yn cymharu yn erbyn lluniau a gedwir yn system rheoli cofnodion lleol Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Bydd hyn yn cynnwys lluniau o'r gronfa ddata lluniau dalfa a lluniau o'r gronfa ddata unigolion coll.
Mae'r gronfa ddata ond yn cynnwys lluniau o unigolion sydd wedi cael eu ffotograffu yn ein dalfeydd, yng Ngwent neu yn Ne Cymru, neu unigolion y rhoddwyd gwybod amdanynt fel rhai sydd ar goll ac mae'r risg wedi cael ei hystyried yn ddigonol i gyfiawnhau cael llun at ddibenion dod o hyd ac adnabod yr unigolyn hwnnw.
O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol er mwyn sicrhau na chânt eu prosesu ymhellach lle na ellir cyfiawnhau eu cadw. Dyma'r amgylchiadau sy'n fwyaf tebygol o fod yn berthnasol:
Nid yw'r hawl i ddileu data yn gymwys os byddwn yn prosesu eich data personol:
Os hoffech ofyn i ni ddileu eich data personol, defnyddiwch y manylion cyswllt yn hysbysiad preifatrwydd perthnasol HDC neu HG:
Heddlu De Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd | Heddlu De Cymru
Heddlu Gwent: Hysbysiad Preifatrwydd | Heddlu Gwent
Dim ond ar ôl i gyfleoedd rhesymol a llai ymwthgar i adnabod unigolyn anhysbys gael eu defnyddio y dylid penderfynu defnyddio OIFR. Er mwyn cyfiawnhau OIFR, mae rhaid bod diben plismona (sail) a rhaid i'r testun fod yn anfodlon neu ni all adnabod ei hun i'r swyddog (rhesymau). Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn y ddogfennaeth ategol.
Bydd y swyddog heddlu yn cymryd camau rhesymol i esbonio'r rheidrwydd dros ddefnyddio ap OIFR a sut bydd y data yn cael eu defnyddio. Nid oes angen cydsyniad ar yr heddlu i ddefnyddio ap OIFR ond bydd yn gofyn am gydweithrediad yr unigolyn i wneud ei wyneb yn weladwy er mwyn tynnu ffotograff.
Os bydd yr unigolyn yn gwrthod â chaniatáu i swyddog gael llun, bydd y swyddog yn mynd yn ôl i bwerau a thactegau eraill sydd ar gael y gall eu defnyddio i ymdrin â'r sefyllfa o'i flaen. Gallai hyn gynnwys, lle mae rheidrwydd yn unol â chod G PACE (pŵer statudol) i swyddogion yr heddlu, i arestio'r unigolyn at ddibenion canfod enw a chyfeiriad.
Ni ddylai swyddogion heddlu ddefnyddio grym at ddibenion cael llun ar gyfer OIFR.
Gallai amgylchiadau ddigwydd lle mae swyddog wedi ceisio defnyddio, neu wedi defnyddio OIFR a defnyddio grym at ddiben arestio yn dilyn hynny. Dylai hyn gael ei gyfiawnhau gan y swyddog a ni ddylai fod at ddiben cael Llun Chwilota at ddibenion OIFR.
Ni chaiff data biometrig ar ffurf lluniau a thempledi biometrig eu cadw gan OIFR a chânt eu dileu o'r ap yn awtomatig heb opsiwn i'w hadfer. Am y rheswm hwn, nid ydym byth yn trosglwyddo data biometrig neu luniau o OIFR i asiantaethau trydydd parti.
Bydd recordiadau fideo a wisgir ar y corff o ddefnydd OIFR yn cael eu cadw at ddibenion craffu a chwynion yn unol â pholisi stopio a chwilio a defnydd grym. Gall y recordiadau hyn gael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer materion dan ymchwiliad ond cânt eu rheoli yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a'u datgelu yn unol â Deddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996.
Oes. Mae'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â defnydd ap OIFR ar gael ar y dudalen Adnabod Wynebau a Gychwynnir gan Weithredwr ar wefan Heddlu De Cymru.