Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae mwy na 60 o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn un dydd yng Nghaerdydd a'r Bari, sy'n gwneud y strydoedd yn fwy diogel.
Yn eu plith roedd beic mynydd wedi'i addasu oedd yn gallu cyrraedd 90 milltir yr awr – y cyflymaf i gael ei atafaelu erioed mewn ymgyrch ar y cyd gan Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd.
Roedd y beic yn un o'r 11 a atafaelwyd yn Nhrelái a'r Tyllgoed, 12 yng nghanol y ddinas, ac 17 arall ym Mae Caerdydd ddydd Iau diwethaf (16 Hydref). Atafaelwyd mwy yn:
Y Rhath, Cathays, Tredelerch, Llaneirwg a'r Bari.
Atafaelwyd cyfanswm o 62 o gerbydau wedi'i gyrru'n fecanyddol (MPVs), y cyfeirir atynt hefyd fel e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon.
Byddant nawr yn cael eu gwasgu a'u hailgylchu.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell: “Mae defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn anghyfreithlon ac yn peri risg difrifol i gerddwyr a defnyddwyr y ffordd.
“Mae'r effaith y mae reidwyr e-feiciau gwrthgymdeithasol yn ei chael ar gymunedau yn cael ei chodi fel pryder yn aml.
"Yn gyffredinol, mae'r bobl rydym yn eu stopio yn anymwybodol o'r gyfraith. "Fel arfer, maent yn yrwyr danfon nwyddau, cymudwyr sy'n edrych am ffordd rad o deithio, neu bobl ifanc sy'n ei weld fel tuedd.
“Rydym yn annog y cyhoedd i ddeall y gyfraith a gwneud dewisiadau diogel a chyfreithlon.”
Mae ymgyrch ddydd Iau yn dilyn ymgyrch lwyddiannus dros yr haf lle cafodd 135 o MVPs eu hatafaelu.

