Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae sgwteri trydan (a elwir hefyd yn e-sgwteri) yn dod o dan gategori “cludwyr wedi’u pweru”; mae hyn yn cynnwys ystod o ddyfeisiau cludo personol sy’n cael eu pweru gan fodur.
Dosbarthir e-sgwteri fel cerbydau modur o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Mae hyn yn golygu bod y rheolau sy’n berthnasol i gerbydau modur hefyd yn berthnasol i e-sgwteri gan gynnwys yr angen i gael trwydded, yswiriant a threth.
Ar hyn o bryd nid yw’n bosibl cael yswiriant ar gyfer e-sgwteri personol, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon eu defnyddio ar y ffordd neu mewn mannau cyhoeddus. Os ydych yn defnyddio e-sgwter preifat gall y cerbyd gael ei atafaelu o dan adran 165 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 am beidio â bod ag yswiriant.
Os byddwch yn achosi anaf difrifol i unigolyn arall tra’n reidio e-sgwter bydd y digwyddiad yn cael ei ymchwilio yn yr un modd ag y byddai pe byddech yn reidio beic modur neu’n gyrru car.
Mae treialon e-sgwteri ar rent yn cael eu cynnal yn y DU. Rhaid i unrhyw un sy’n defnyddio e-sgwter ar rent ar ffordd gyhoeddus neu mewn man cyhoeddus arall gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth traffig ffyrdd perthnasol neu fe allai gael ei erlyn.
Er mwyn rhentu e-sgwter mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
Dim ond mewn ardaloedd sydd wedi’u cymeradwyo y gellir defnyddio e-sgwteri.
Mae’n gyfreithlon i ddefnyddio e-sgwter ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir.
Mewn ardaloedd lle mae cynllun rhentu yn cael ei dreialu, mae’n gyfreithlon defnyddio e-sgwter wedi’i rentu ar ffordd gyhoeddus neu mewn lôn feiciau, cyn belled bod gennych y drwydded gywir a’ch bod yn dilyn rheoliadau traffig ffordd.
Os nad oes gennych drwydded, neu’r drwydded gywir, neu os ydych yn reidio heb yswiriant gallech gael hysbysiad Cosb Benodedig ynghyd â:
Gallech hefyd fod yn cyflawni trosedd os cewch eich dal yn:
Os ydych yn defnyddio e-sgwter yn gyhoeddus mewn modd gwrthgymdeithasol, efallai y caiff yr e-sgwter ei atafaelu o dan adran 59 Deddf Diwygio'r Heddlu.
Pan fyddwch yn reidio e-sgwter byddem bob amser yn argymell gwisgo cyfarpar diogelwch megis helmed a chadw at y terfyn cyflymder.