Stamp amser presennol: 23/06/26 13:38:54
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae dros 500 o swyddogion wedi'u hyfforddi i ddefnyddio ap symudol adnabod wynebau newydd

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 10:16 14/07/2025

Mae dros 500 o swyddogion yr heddlu yn Ne Cymru a Gwent bellach wedi'u hyfforddi i ddefnyddio ap ffôn symudol a fydd yn eu galluogi i gadarnhau hunaniaeth unigolyn anhysbys ag un botwm.

Nhw yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio technoleg i adnabod unigolion mewn amser bron yn real drwy ap adnabod wynebau.

Ac o fewn y misoedd cyntaf ei ddefnyddio, mae swyddogion wedi gallu adnabod rhywun sydd ar goll, rhywun sy'n wynebu risg o niwed difrifol, rhywun y mae'r heddlu yn chwilio amdano, neu rywun dan amheuaeth o drosedd, o dan amgylchiadau pan na allant roi manylion, pan fyddant yn gwrthod rhoi manylion neu'n rhoi manylion ffug.

Gellir defnyddio'r ap hefyd ar rywun sydd wedi marw neu sy'n anymwybodol – gan helpu swyddogion i'w hadnabod yn brydlon er mwyn cael gafael ar eu teulu â gofal a thosturi.

Mae Adnabod Wynebau a Gychwynnir gan Weithredwr (OIFR) fel y'i gelwir, eisoes wedi cael ei ddefnyddio i adnabod unigolion dan amheuaeth sydd wedi rhoi manylion ffug neu wedi gwrthod dweud pwy ydynt.

Yn Ne Cymru, mae 50 o chwiliadau wedi cael eu cynnal gan arwain at 10 arestiad, cyflwynwyd dau unigolyn i'w gwysio, cafodd dau eu hadnabod am faterion nad ydynt yn droseddol a chafodd chwech eu rhyddhau  'heb gamau pellach'.

Yng Ngwent, cafwyd chwe defnydd cyflawn, gan arwain at dri chyfatebiad. Roedd dau am bryderon dros ddiogelwch ac arweiniodd un at arestio dyn a roddodd fanylion ffug i swyddogion a chafodd ei adnabod yn gywir gan ddefnyddio'r ap. Cadarnhaodd system yr heddlu fod yr heddlu yn chwilio amdano am ddwyn o siopau, ymosod, a throsedd moduro. Yn ddiweddarach, cafodd ei gyhuddo a'i ddyfarnu'n euog.

Arweiniodd un defnydd nodedig yn Ne Cymru at adnabod dyn gan ddefnyddio'r ap yng Nghaerdydd lle roedd Gwarant Arestio Ewropeaidd yn ei lle am ddelio cyffuriau ac ymosod ar swyddog yr heddlu gydag arf angheuol yng Ngwlad Pwyl yn dyddio'n ôl i 2012. Cafodd y dyn 38 oed ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster.

Dywedodd yr Arolygydd Ben Gwyer, sy'n arwain ar adnabod wynebau ar ran Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent:

“Mae'r enghreifftiau hyn wedi galluogi swyddogion i adnabod unigolion sydd wedi gwrthod rhoi manylion neu sydd wedi rhoi manylion ffug yn gyflym cyn cymryd camau priodol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

“Roedd hyn yn cynnwys unigolion a ganfuwyd amgylchiadau amheus a'u hadnabod drwy ddefnyddio'r ap, ar ôl rhoi manylion ffug i ni.”

Mewn achosion lle mae'r heddlu yn chwilio am rywun am gyflawni troseddol, mae'n golygu y gellir arestio a rhoi unigolyn yn y ddalfa yn gyflym. Caiff achosion o gam-adnabod unigolyn eu datrys yn hawdd heb fod angen ymweld â gorsaf heddlu neu'r ddalfa.

Ni chaiff ffotograffau a dynnir drwy'r ap fyth eu cadw ac mae swyddogion yn cael arweiniad penodol mewn perthynas â defnyddio'r ap mewn mannau preifat megis tai, ysgolion, cyfleusterau meddygol ac addoldai er mwyn cydbwyso anghenion plismona yn erbyn yr hawl i breifatrwydd yr unigolyn.

Ychwanegodd yr Arolygydd Gwyer:

"Mae swyddogion yr heddlu bob amser wedi gallu adnabod rhywun y maent yn meddwl sydd ar goll, neu rywun y mae'r heddlu yn chwilio amdano, a'u stopio ar y stryd.

“Nid yw'r dechnoleg hon yn disodli dulliau traddodiadol o adnabod pobl ac mae swyddogion ond yn ei defnyddio ar adegau lle mae'n briodol ac yn addas gwneud hynny, gyda'r nod o gadw'r unigolyn hwnnw, neu'r cyhoedd yn ehangach, yn ddiogel.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.