Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Sul, 17 Mawrth 2024, cafodd swyddogion eu stopio gan aelod o'r cyhoedd a roddodd wybod iddynt fod dau berson wedi cael eu taro ar Heol Merthyr ym Mhentrebach.
Roedd y dioddefwyr yn cerdded tuag at ganol tref Merthyr Tudful pan wyrodd car Audi A3 llwyd, a oedd hefyd yn teithio i'r un cyfeiriad, i ochr anghywir y ffordd, gan yrru i ben y cyrbin a tharo'r ddau. Cafodd un o'r dioddefwyr waedlif ar ei ysgyfaint a thorrodd ddau asgwrn yn ei goes yr oedd angen llawdriniaeth i'w trin.
Daethpwyd o hyd i gasyn drych ystlys a drych gyda logo Audi arno ar y palmant ar ôl y gwrthdrawiad. Cynhaliwyd chwiliadau CCTV a gwelwyd y car Audi yn cael ei yrru o amgylch canol tref Merthyr gyda'i ffenest flaen wedi'i thorri.
Yna, cafodd y car hwn ei gysylltu â Lewis Morris, 27 oed o Dreharris. Cafodd y digwyddiad ei recordio ar ddeunydd fideo CCTV pellach, a oedd yn dangos y ddau ddioddefwr yn cael eu taflu i'r awyr.
Daeth swyddogion o hyd i'r car Audi hwn wedi'i barcio mewn maes parcio ym Merthyr Tudful gyda difrod sylweddol iddo, gan gynnwys ffenestr flaen wedi'i thorri a difrod i'r drych ystlys ar ochr y gyrrwr.
Ddydd Llun, 24 Chwefror 2025, ymddangosodd Morris gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful lle plediodd yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Ddydd Llun, 14 Ebrill 2025, cafodd Morris ei ddedfrydu i 34 mis yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Plediodd Rebecca Sutton, 32 oed o Ferthyr Tudful, hefyd yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chafodd ei dedfrydu i chwe mis yn y carchar.
Dywedodd Swyddog Plismona'r Ffyrdd Mack:
“Yn rhyfeddol, ni chafodd y ddau ddioddefwr anafiadau a allai fod wedi newid eu bywyd, ond achosodd y digwyddiad hwn, yn ddealladwy, fraw sylweddol i'r ddau.
“Er ein bod yn croesawu'r canlyniad yn y llys, rydym yn cydnabod bod y ddau ddioddefwr a'u teuluoedd yn parhau i ddioddef effaith emosiynol o ganlyniad i weithredoedd byrbwyll a pheryglus Morris.”