Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
PENC4MPWYR – ydyn, mae tîm rygbi dynion Heddlu De Cymru wedi ennill pedair pencampwriaeth yn olynol!
Mae cwpan Chwaraeon Heddlu'r DU yn dychwelyd i Dde Cymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ar ôl buddigoliaeth gampus dros y Scottish Thistles nos Fercher.
Ar ôl perfformiad gorau'r tîm ers degawd, yn ôl y rheolwyr, llwyddodd #TîmHDC i sicrhau buddigoliaeth o 60 i 17 i ychwanegu at ei gwpwrdd tlysau sydd eisoes yn orlawn.
Yn ogystal â phedwaredd buddigoliaeth y tîm yn olynol, dyma'r wythfed tro y bydd y cwpan yn dod yma i Dde Cymru.
Yn y gêm ddydd Mercher a gafodd ei chynnal ar gae Sale RFC ym Manceinion, llwyddodd tîm De Cymru i sicrhau goruchafiaeth o'r dechrau gan fod ar y blaen o 34 i 5 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ac er gwaethaf rhai ceisau hwyr gan y Thistles, doedd hi byth yn edrych yn debygol y byddai tîm De Cymru yn colli ei afael ar y tlws.
Llongyfarchiadau i Dîm Rygbi Heddlu De Cymru am barhau â'i lwyddiant anhygoel.