Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ymchwiliad i ddiflaniad Paria Veisi bellach yn cael ei drin fel ymchwiliad i lofruddiaeth dan arweiniad Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru.
Mae dyn 41 oed a menyw 48 oed, sy'n adnabod Paria, yn y ddalfa o hyd ar ôl iddynt gael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Ffocws yr ymchwiliad parhaus o hyd yw symudiadau Paria ar ôl iddi adael ei gweithle yn Nhreganna am 3pm ddydd Sadwrn 12 Ebrill, gan yrru yn ei Mercedes GLC 200 du, y daethpwyd o hyd iddo nos Fawrth (15 Ebrill) ar Dorchester Avenue, Penylan.
Mae gan Paria wallt hir, cyrliog, du – cafodd ei gweld ddiwethaf yn gwisgo top ymarfer corff du â sip dros dop coch, trowsus du, ac esgidiau rhedeg. Roedd yn cario bag ochr bach.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:
“Gallaf gadarnhau bod yr ymchwiliad i ddiflaniad Paria Veisi bellach yn ymchwiliad i lofruddiaeth. Ar hyn o bryd, nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth bod Paria yn fyw. Mae ei theulu a'i ffrindiau yn bryderus iawn gan nad ydynt wedi clywed ganddi, sy'n gwbl groes i'w chymeriad. Mae teulu Paria wedi'u hysbysu ac rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.
“Mae gennym ddau berson yn y ddalfa, ac ar hyn o bryd, nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn.
“Mae ein hymchwiliad yn parhau i ganolbwyntio ar symudiadau Paria ar ôl iddi adael ei gweithle yn ardal Treganna ddydd Sadwrn 12 Ebrill.
“Mae gwaith CCTV ac ymholiadau helaeth o dŷ i dŷ yn cael eu cynnal gan dîm o swyddogion ac rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi, i gysylltu â ni.”
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C05-PO1
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2500116906.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.