Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddiflaniad menyw 37 oed o ardal Cathays yng Nghaerdydd.
Nid yw Paria Veisi wedi cael ei gweld ers tua 3pm ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, pan adawodd ei gweithle yn Nhreganna. Rhoddwyd gwybod ei bod ar goll y diwrnod wedyn.
Mae ei diflaniad yn gwbl groes i'w chymeriad ac mae swyddogion yn pryderu am ei lles.
Disgrifiad
Mae gan Paria wallt hir, cyrliog, du – cafodd ei gweld ddiwethaf yn gwisgo top ymarfer corff du â sip dros dop coch, trowsus du, ac esgidiau rhedeg. Roedd yn cario bag ochr bach.
Symudiadau
Mae ymholiadau teledu cylch cyfyng a wnaed gan swyddogion yn cadarnhau bod Paria wedi gadael ardal Treganna ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, yn gyrru yn ei char Mercedes du GLC 220. Daethpwyd o hyd i'r car nos Fawrth (15 Ebrill) ar Dorchester Avenue, Penylan.
Mae dyn, 41 oed, a menyw, 48 oed, wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'i diflaniad ac maent yn nalfa'r heddlu.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C05-PO1
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2500116906.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.