Stamp amser presennol: 20/05/25 23:27:46
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dedfryd oes i ddyn a lofruddiodd fam annwyl i ddau o blant yng Nghaerdydd

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 11:55 24/04/25

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio mam i ddau, Victoria Thomas yng Nghaerdydd.

Roedd Alcwyn Thomas wedi treulio'r diwrnod yn yfed yn drwm ac yn cymryd cocên cyn tagu Victoria, 45 oed, i farwolaeth yn y tŷ yr oeddent yn ei rannu ar Heol Caerffili yn Birchgrove.

Alcwyn Thomas cropped.jpg
Alcwyn Thomas

 

Cyfaddefodd Thomas, 44 oed, i ddynladdiad ond dadleuodd mai  ‘gweithred rywiol a aeth o'i le’ oedd yn gyfrifol am farwolaeth Victoria ac y bu farw yn ystod ‘mygu erotig’.

Gwadodd lofruddiaeth ond cafodd ei ganfod yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd. Mae bellach wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 20 mlynedd.

Dangosodd deunydd fideo teledu cylch cyfyng o brynhawn dydd Llun, 19 Awst 2024, y cwpl di-briod yn ymweld â The New Inn ar Ffordd Caerffili cyn mynd ymlaen i Bingo Clwb 3000 yn ardal Gabalfa gydag aelodau o deulu'r diffynnydd. 

Dywedwyd ei fod yn ddadleuol ac yn oriog y noson honno. Roedd wedi yfed 16 peint o lager ac wedi bod yn defnyddio cocên. Dangosodd deunydd fideo teledu cylch cyfyng pellach y tu allan i'r neuaddau bingo Alcwyn Thomas yn cymryd cocên a'r cwpl yn dadlau, yn ôl pob golwg, cyn mynd i mewn tacsi.

Cafodd Victoria ei gweld yn fyw am y tro olaf am 9.26pm pan aeth y cwpl adref.

Ychydig ar ôl 11pm, anfonodd Thomas negeseuon testun at ei chwiorydd yn dweud, “Sorry I done something so bad”.

Cafodd corff Victoria ei ganfod yn ystod oriau mân bore dydd Mawrth, 20 Awst ar ôl i nith Thomas, a oedd yn poeni ar ôl gweld y negeseuon testun, fynd i weld a oedd hi'n iawn.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd Thomas yn cysgu yn ystafell wely'r cwpl ar y llawr canol. Atebodd ‘dim sylw’ yn ystod cyfweliad yr heddlu ond yn ddiweddarach, cyfaddefodd i dagu Victoria yn fwriadol.

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:

“Roedd Victoria Thomas yn ferch, yn fam, yn chwaer, yn fodryb ac yn nith annwyl iawn.
“Mae aelodau ei theulu wedi'u llorio, ac maent wedi dangos amynedd ac urddas aruthrol yn ystod y cyfnod torcalonnus hwn. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt heddiw.
“Nid yw Alcwyn Thomas wedi dangos unrhyw edifeirwch a dadleuodd mai rhyw fath o weithred rywiol a aeth o'i le oedd marwolaeth Victoria. Ni wnaeth unrhyw ymdrech i'w hadfywio na cheisio cymorth ar ei chyfer, ac ar ôl ei lladd, aeth i gysgu yn eu hystafell wely.
“Nawr, mae'n rhaid iddo wynebu realiti'r hyn a wnaeth a threulio amser hir iawn yn y carchar.”

Victoria Thomas landscape.JPG
Victoria Thomas

 

Mewn datganiad, dywedodd teulu Victoria:

“Fel teulu, rydym yn ddiolchgar iawn bod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni yn yr achos hwn.
“Hoffem ddiolch i bawb dan sylw yn Heddlu De Cymru sydd, yn ogystal â chynnal ymchwiliad trylwyr a llwyddiannus, wedi cynnig cefnogaeth wych i bob un ohonom drwyddi draw.
“Diolch i Cymorth i Ddioddefwyr am bopeth y mae wedi ei gynnig i'r teulu er mwyn ceisio gwneud ein bywydau ychydig yn haws.
“Hoffem hefyd ddiolch i Wasanaeth Erlyn y Goron ac yn enwedig y tîm a fu'n paratoi'r achos llys a Mike Jones CB am ei gyflwyniad rhagorol o'r dystiolaeth a arweiniodd at euogfarnu llofrudd Vicki yn llwyddiannus.
“Ni fyddwn fyth yn cael Vicki yn ôl a bydd yn rhaid i ni fyw gyda hyn am weddill ein hoes, ond mae gwybod na fydd ei llofrudd yn byw yn rhydd am weddill ei oes yn rhoi rhywfaint o gysur i ni.”

Rhannu

  • Dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi'i garcharu am ddal machete
  • Dyn o Walsall wedi'i garcharu ar ôl euogfarn am ddau achos o dreisio yng Nghwmafan
  • Carcharu menyw ar ôl ymosodiad yng nghanol dinas Abertawe
  • Tyfwyr canabis a gafodd eu dal fel rhan o ymgyrch genedlaethol wedi'u carcharu
  • Dau berson ifanc yn eu harddegau o Gastell-nedd Port Talbot wedi'u harestio yn dilyn tân mewn hen gapel
  • Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw o Gefn Cribwr
  • Cyn-bennaeth wedi'i garcharu yn dilyn ymosodiad ar safle ysgol
  • Gorchymyn ysbyty i fenyw 42 oed a gyfaddefodd ddynladdiad

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.