Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wyddech chi ein bod yn cynnig prentisiaethau staff yma yn Nhîm HDC? Yn ystod yr #WythnosGenedlaetholPrentisiaethau hon, rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n rhaglen brentisiaeth ac yn rhannu rhai straeon go iawn am y bobl sydd wedi ei defnyddio.
Wedi'i datblygu gan ein tîm Gweithredu Cadarnhaol, mae rhaglen brentisiaeth Heddlu De Cymru yn gyfle gwych os ydych am feithrin eich sgiliau yn y gweithle ochr yn ochr ag ennill cymhwyster academaidd. Mae'r cyfle hwn wedi'i deilwra i'r rhai ar ddechrau eu taith gyrfa neu i'r rheini sy'n awyddus i newid gyrfa. Bydd disgwyl i chi gwblhau cymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r brentisiaeth y gwnaethoch ei dewis, ochr yn ochr â'ch gwaith gyda ni.
Mae'n rhaglen â thâl sy'n dechrau ym mis Medi ac yn para am gyfnod o 12 i 18 mis, yn ddibynnol ar fodloni'r gofynion ar gyfer y cymhwyster. Cewch eich cefnogi drwy'r cwrs gan diwtor o'r coleg a'ch tîm yn y gweithle. Ar ddiwedd y cymhwyster, byddwch yn gallu gwneud cais am rôl barhaol o fewn Heddlu De Cymru.
“Roedd fy mhrentisiaeth gyda Heddlu De Cymru yn rhagori ar bob un o'm disgwyliadau, ac rwyf wedi dysgu llawer amdana i fy hun ar hyd y daith! Cefais gyfle i gysgodi llawer o adrannau gwahanol ar draws HDC a'm uchafbwyntiau yw'r Ddalfa, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd.
“Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd yn ystod fy nghyfnod gyda'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae wedi rhoi hwb enfawr i'm hyder.Bellach, rwy'n fwy siŵr am fy nodau gyrfa ac mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi'r offer i mi i'w cyflawni.Byddaf yn fythol ddiolchgar am y profiad hwn a'r cyfeillgarwch rwyf wedi'u meithrin ar hyd y daith!” Rachael Duffy, Prentis Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi gwag yn yr adrannau canlynol:
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i lwybrau mynediad cynnar i blismona, lle gall unigolion gael profiad o rolau gwahanol ar draws ein heddlu, a'u harsylwi. Gall y cyfleoedd hyn helpu unigolion i benderfynu ar gyfeiriad eu gyrfa yn y dyfodol.
“Gall y llwybr prentisiaeth, sy'n un o sawl llwybr mynediad cynnar yma yn HDC, gynnig datblygiad yn ogystal â chwblhau cymhwyster. Bydd unigolion yn cael hyfforddiant yn y swydd, profiad perthnasol a meithrin sgiliau.” Debbie Nugent, Rheolwr Gweithredu Cadarnhaol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld y meini prawf cymhwysedd llawn yma.