Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn defnyddio camerâu adnabod wynebau byw ychwanegol yng Nghaerdydd yn ystod gemau rygbi rhyngwladol y Chwe Gwlad eleni fel ffordd arall o gadw ymwelwyr â chanol y ddinas yn ddiogel.
Bydd rhwydwaith o gamerâu dros dro yn cael ei osod ledled canol y ddinas. Bydd y ffrydiau o'r camerâu hyn yn cael eu trosglwyddo i faniau Adnabod Wynebau Byw lle tynnir sylw swyddogion at unrhyw un sydd ar restr wylio wedi'i phennu ymlaen llaw.
Bydd swyddogion yn ymateb i'r wybodaeth hon ac yn mynd ati i gadarnhau a yw'r unigolyn dan sylw yn rhywun y mae angen i'r heddlu siarad ag ef, cyn cymryd y camau priodol.
Bydd camerâu wedi'u lleoli mewn mannau allweddol ledled canol y ddinas, wrth ymyl y prif bwyntiau mynediad i gerddwyr – gan greu ardal ddiogel i bob pwrpas.
Bydd y Dechnoleg Adnabod Wynebau yn gweithio'n union yr un peth â dulliau byw traddodiadol – gan gymharu wynebau yn erbyn rhestr wylio o unigolion y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am gyflawni trosedd, unigolion sydd wedi'u gwahardd o ardal neu unigolion sy'n peri risg i'r cyhoedd.
Mae'r cysyniad 'Ardaloedd Diogel' wedi cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref a bydd yn cael ei dreialu gan Heddlu De Cymru yn ystod cyfnod prysur y gemau rygbi rhyngwladol sy'n denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i'r ddinas naill ai i wylio'r gêm yn y stadiwm neu mewn tafarndai a bariau.
Er bod y camerâu yn edrych yn debyg i gamerâu CCTV, nid ydynt yn recordio ac os na cheir unrhyw gyfatebiad, caiff y data eu dileu yn syth ac yn awtomatig. Bydd y camerâu hyn hefyd wedi'u marcio'n benodol fel camerâu'r heddlu.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Trudi Meyrick:
"Mae defnyddio mwy o gamerâu adnabod wynebau ledled canol y ddinas yn gwella ein gallu i gadw ymwelwyr yn ddiogel rhag niwed yn sylweddol.
"Ein blaenoriaeth yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel ac mae'r dechnoleg hon yn ein helpu i gyflawni hynny. Rydym yn deall y pryderon sy'n cael eu codi am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau ond mae'n bwysig cofio nad yw erioed wedi arwain at arestio unigolyn ar gam ac na fu unrhyw rybuddion anghywir ers sawl blwyddyn gan fod y dechnoleg a'n dealltwriaeth wedi datblygu."
Yn dilyn her gyfreithiol mewn ymateb i ddefnyddio'r dechnoleg, datblygwyd Cod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth ac Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona sy'n nodi ein rhwymedigaethau wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau.
Yn dilyn cyfres o dreialon a phrofion a gwerthusiadau data annibynnol, cadarnhawyd nad yw'r dechnoleg yn gwahaniaethu ar sail rhywedd, oedran na hil, yn seiliedig ar y ffordd gyfrifol y caiff technoleg adnabod wynebau ei defnyddio gan Heddlu De Cymru.
Dywedodd ACC Meyrick:
"Mae'r gwaith goruchwylio a chraffu annibynnol a wnaed yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa gryfach nag erioed o'r blaen i allu dangos bod ein defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yn deg, yn ddilys, yn foesegol ac yn gymesur."
Os yw'r treial yn llwyddiannus, gellid defnyddio'r cysyniad mewn digwyddiadau mawr eraill ac mewn lleoliadau eraill yn Ne Cymru.
Cafodd technoleg adnabod wynebau ei defnyddio'n flaenorol mewn ymgyrch yn seiliedig ar gudd-wybodaeth mewn cyngerdd yng Nghaerdydd ar ôl i fwy na 220 o ffonau symudol gael eu dwyn oddi ar bobl a aeth i ddigwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r DU.
Cafodd 30 o bobl y tybiwyd eu bod yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn arbenigo mewn dwyn ffonau mewn digwyddiadau cerddoriaeth eu gosod ar restr wylio. Diolch i'r mesur rhagweithiol hwn, llwyddwyd i adnabod un o'r unigolion dan amheuaeth drwy dechnoleg adnabod wynebau a chafodd ei arestio am fynd i'r lleoliad yn barod i ddwyn. Mae'n werth nodi na chafwyd wybod am unrhyw achos o ffonau symudol yn cael eu dwyn.