Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliodd tîm Trwyddedu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ymgyrch ar nifer o dafarndai yn ardal Llansawel ar ôl i gudd-wybodaeth ddiweddar awgrymu bod rhai o'r safleoedd hyn yn gwerthu alcohol i bobl dan oed yn rheolaidd.
Cefnogwyd yr ymgyrch, a gafodd ei chydlynu ar y cyd ag adran drwyddedu Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gwnstabliaid gwirfoddol hefyd. Pan ymwelodd y tîm â safleoedd trwyddedig yn yr ardal, gwelwyd bod nifer o bobl dan 18 oed yn yfed yn un o'r sefydliadau – roedd rhai ohonynt wedi meddwi a chadarnhawyd bod staff y bar wedi gwerthu alcohol iddynt heb ofyn am fanylion adnabod.
Aeth swyddogion â'r plant hyn adref, lle cawsant eu gadael yng ngofal eu teuluoedd.
Mae ymholiadau yn mynd rhagddynt o hyd. Caiff camau cadarnhaol eu cymryd yn erbyn y safleoedd trwyddedig a'r staff a oedd yn gyfrifol am werthu'r alcohol. Mae diogelu plant rhag niwed yn un o'r pedwar amcan Trwyddedu – rhaid i safleoedd trwyddedig a goruchwylwyr safleoedd dynodedig sicrhau eu bod yn cynnal ac yn cyflawni'r amcanion hyn. Drwy werthu alcohol i bobl dan oed, maent yn peryglu diogelwch a llesiant y plant hynny ac yn wynebu'r risg o gael eu herlyn eu hunain.
Dywedodd y Rhingyll James Ponting:
“Bydd y mathau hyn o ymgyrchoedd, gan gynnwys ymgyrchoedd prawf-brynu, yn cael eu cynnal ledled ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn rheolaidd.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu gudd-wybodaeth a fydd yn ein helpu ni i ddiogelu plant rhag mynd i safleoedd trwyddedig nad ydynt yn dilyn y ddeddfwriaeth ofynnol i gysylltu drwy ffonio 101.”