Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Peidiwch â gadael iddynt fynd i mewn i fy ystafell…’
Dyna oedd geiriau'r deliwr cyffuriau Ismail Adan cyn iddo roi'r ffôn i lawr.
Roedd yn meddwl ei fod yn siarad â'i frawd - ond heb yn wybod iddo, roedd swyddog yr heddlu ar ochr arall y ffôn.
Nid oedd Ismail Adan, 20 oed, gartref ar 10 Gorffennaf 2024, ond gwyddai fod gan swyddogion yr heddlu warant chwilio o dan PACE yn nhŷ ei deulu. Cysylltodd â'i frawd er mwyn ceisio atal y swyddogion rhag mynd i mewn i'w ystafell wely, lle roedd yn storio crac cocên.
Ychydig eiliadau ar ôl yr alwad, aeth swyddogion i mewn i'w ystafell a daethant o hyd i ddeg rôl o grac cocên yn ogystal â'r llinell gyffuriau roeddent yn ymchwilio iddi.
Roedd y swyddogion o Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro yn gweithredu ar gudd-wybodaeth a roddwyd gan swyddogion o'r Heddlu Metropolitanaidd a lwyddodd i gysylltu Ismail â'r broses o redeg llinell gyffuriau ‘Avon’ a fu'n weithredol ers mis Ebrill 2024.
Cafodd Adan ei arestio y diwrnod canlynol mewn parc cyfagos ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa. Cafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin, a chael crac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Plediodd Adan o Heol Penarth, Grangetown, yn euog i'r holl droseddau ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 21 Tachwedd, lle cafodd ei gadw am dair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Roedd yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf (2024) gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o grac cocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.
Llun dalfa'r heddlu o Ismail Adan.