Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw yw Diwrnod Rhuban Gwyn, ymgyrch sy'n gofyn i ddynion i weithredu i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched (VAWG).
Mae'r thema eleni yn annog dynion i ddwyn eu hunain i gyfrif i fenywod, ac i'w gilydd, i annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad. Gallwch wneud addewid y Rhuban Gwyn yma.
Mae mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched yn flaenoriaeth i ni ac mae'n golygu mynd i'r afael â throseddau y nodir eu bod yn cael eu cyflawni yn bennaf, ond nid bob tro, gan ddynion yn erbyn menywod.
Mae'r troseddau hyn yn cynnwys cam-drin domestig, treisio, troseddau rhywiol, stelcio, aflonyddu, trais ar sail anrhydedd gan gynnwys priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, tagu neu fygu heb fod yn angheuol, cam-drin plant, masnachu mewn pobl, canolbwyntio ar gam-fanteisio’n rhywiol, puteindra a phornograffi.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn gyfle i gadarnhau'r addewid a wnawn i beidio byth ag ymrwymo, esgusodi na chadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched. Mae mynd i'r afael â phob math o gamdriniaeth a chadw pobl yn ddiogel yn flaenoriaeth ar gyfer HDC a bydd hynny'n wir bob amser.
"I'r menywod a merched sydd wedi cysylltu â ni, nid ydym yn diystyru pa mor anodd y gall fod i rannu gwybodaeth bersonol, yn enwedig pan fydd y gamdriniaeth a brofir yn aml yn cyfyngu ar ryddid ac yn effeithio ar hunan-barch a hyder. I'r rhai sydd heb gysylltu â ni eto, rydym yn gallu eich helpu ac rydym eisiau eich helpu.
“Os byddwch chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais neu gamdriniaeth, gofynnwch am gymorth. Gallwch gysylltu â ni ar-lein, drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng. Os nad ydych yn barod i siarad â'r heddlu, rwy'n eich annog i gysylltu â gwasanaeth cymorth fel Byw Heb Ofn sydd ar gael 24/7 i wrando ac i gynnig arweiniad."
"Ein nod yw sicrhau na fydd menywod a merched byth yn ddioddef trais na chamdriniaeth, a bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn ein cymunedau, a byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i gyflawni hyn."
Rhowch wybod i ni neu unrhyw un rydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef am ddigwyddiad. Helpwch ni i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched.