Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cail Sweetland wedi'i garcharu am ymosod yn rhywiol ar fenyw mewn gwesty yng Nghaerdydd.
Gwnaeth Sweetland, 24 oed, daro, cicio, a chnoi'r dioddefwr yn ystod yr ymosodiad treisgar a oedd wedi achosi gwaedlif ar ei hymennydd.
Plediodd yn euog o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio, ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol a chlwyfo anghyfreithlon. Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 8 mlynedd ac 1 mis yn y carchar.
Yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun 1 Tachwedd, cafodd Sweetland, o Gaerffili, hefyd ei wneud yn destun gorchymyn atal amhenodol sy'n ei atal rhag cysylltu â'r dioddefwr.
Ni ellir adnabod y dioddefwr am resymau cyfreithiol.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Anthony Hurley o Heddlu De Cymru: “Taflwyd potel wydr at ben y dioddefwr, gan beri iddi fynd yn anymwybodol, cafodd ei dadwisgo'n noeth a chafodd alcohol ei arllwys drosti er mwyn ychwanegu cywilydd at ei phoen.
“Yn ddealladwy, mae'r profiad erchyll hwn a ddigwyddodd dros gyfnod o bedair awr wedi cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr, yn gorfforol ac yn feddyliol.
“Roedd ei llesiant wrth wraidd ein hymchwiliad, a hoffwn ganmol ei dewrder wrth gymryd rhan lawn yn yr ymchwiliad a'r broses llys anodd.
“Gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i adfer ei hyder. Does neb yn haeddu mynd drwy'r lefel hon o drais. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu menywod rhag trais, ac i gadw ein prifddinas yn ddiogel.”
Os byddwch chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais neu gamdriniaeth, gofynnwch am gymorth. Gallwch gysylltu â ni ar-lein, drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng. Os nad ydych yn barod i siarad â'r heddlu, rwy'n eich annog i gysylltu â gwasanaeth cymorth fel Byw Heb Ofn sydd ar gael 24/7 i wrando ac i gynnig arweiniad.
Ein nod yw sicrhau na fydd menywod a merched byth yn ddioddef trais na chamdriniaeth, a bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn ein cymunedau.