Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, cafodd y Gwasanaeth Coffa blynyddol ei gynnal ym mhencadlys yr heddlu o dan arweiniad y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools, a'i weinyddu gan gaplan yr heddlu, y Parchedig Robert Coyne.
Yn ystod y Gwasanaeth, gosodwyd torchau wrth ein Cofeb Ryfel i anrhydeddu'r rhai a fu farw wrth wasanaethu yn lluoedd arfog ein gwlad, ac wrth ein Deial Haul Coffa i gofio am swyddogion a staff yr heddlu a fu farw wrth wasanaethu ein cymunedau.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rwy'n sefyll yma o'ch blaen heddiw i gofio am y rhai a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu gwlad.
“Mae hwn yn achlysur mor bwysig, ac mae'n briodol ein bod yn parhau i ddangos ein parch a'n diolch i'r rhai a gollwyd wrth wasanaethu, nid yn unig fan hyn, ond ledled y wlad. Mae seremonïau fel y seremoni hon yn dod â'n cymunedau at ei gilydd, i ddangos ein dyngarwch ac i gryfhau ein hymdeimlad o gydlyniant yn ystod adegau o gynnwrf ac ansicrwydd.
“Gadewch i ni fyfyrio, nid yn unig ar gost gwasanaethu, ond hefyd ar yr anrhydedd o wneud hynny. Mae gwaddol ein swyddogion a fu farw, y swyddogion milwrol a'n cydweithwyr ym mhob un o'r gwasanaethau brys a chyhoeddus, yn parhau yn y gwaith a wnawn, y bywydau a gyffyrddwn a'r cymunedau rydym yn eu diogelu. Mae eu dewrder, eu teyrngarwch i wasanaethu a'u haberth eithaf yn ein hysbrydoli i symud ymlaen, ni waeth beth fo'r heriau rydym yn eu hwynebu.
“Ni chânt fyth eu hanghofio.”
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad heddiw, darllenwch Trefn y Gwasanaeth.