Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd dyn o Gaerdydd wedi parhau i werthu cocên er ei fod ar fechnïaeth am ddelio cyffuriau.
Cafodd Cameron Evans, 21 oed o New Road, Tredelerch, ei arestio yn gyntaf yng ngardd tŷ yn Trowbridge ym mis Awst 2023.
Yn y tŷ, daeth swyddogion o Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro o hyd i gocên gwerth £1,600, bagiau selio a chloriannau digidol, a ddefnyddir fel arfer i bwyso cyffuriau i becynnau stryd llai. Daeth swyddogion hefyd o hyd i eitem y maent yn credu mai 'bag cilogram' ydyw mewn bin sbwriel yn yr ardd.
Cafodd Evans ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth ond parhaodd i ddelio cyffuriau a chafodd ei arestio unwaith eto ym mis Hydref 2024 ar ôl i swyddogion lwyddo i gysylltu Evans â llinell cyffuriau a oedd yn weithredol rhwng mis Awst a mis Medi 2024.
Daethant o hyd i 4 owns o gocên gwerth mwy na £10,000 wedi'i guddio mewn pot paent gwag a blwch arian metel yn y tŷ yn Nhredelerch, lle gafodd ei arestio. Roedd y llinell cyffuriau hefyd yn ei feddiant.
Fel rhan o'u hymchwiliad, llwyddodd swyddogion hefyd i gael deunydd teledu cylch cyfyng o Cameron Evans yn rhoi data ar ei ffôn mewn siop leol ar gyfer y llinell cyffuriau, a ddefnyddiwyd yn yr erlyniad.
Plediodd yn euog o fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod â chocên yn ei feddiant, a chafodd ei garcharu am 4 blynedd 11 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 14 Tachwedd.
Llun uchod: Daethpwyd o hyd i gyffuriau gwerth mwy na £10k mewn pot paent gwag
Llun o Cameron Evans yn nalfa'r heddlu.