Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom alwad ychydig cyn 10.25pm nos Lun 10 Gorffennaf 2023 yn nodi bod menyw 34 oed wedi cael ei thrywanu. Aeth swyddogion arfau tanio i gyfeiriad yn Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr a daethant o hyd i'r dioddefwr gyda thri anaf trywanu i'w chefn. Roedd Darren Brown, 35 oed o Wildmill, yn y lleoliad o hyd a chafodd ei arestio ar unwaith.
Cludwyd Corinne Brown i'r ysbyty lle y canfuwyd ei bod wedi cael trywaniad i'w hysgyfaint. Mae bellach wedi gwella'n llwyr.
Yn dilyn ei arestiad, dywedodd Brown wrth y swyddogion mai Corinne oedd yn gafael yn y gyllell ac mai hi oedd wedi achosi’r anafiadau iddi ei hun. Yn ystod y cyfweliad, nododd ei fod wedi cymryd y gyllell oddi arni ac yr achoswyd yr anafiadau wrth iddi ruthro tuag ato.
Dywedodd Corinne wrth yr heddlu bod Brown wedi dod adref, a'u bod wedi dechrau dadlau. Roedd y ddadl wedi gwaethygu, ac aeth Brown i lawr y grisiau. Pan ddechreuodd plentyn bach grio mewn ystafell i fyny'r grisiau, aeth Corinne i weld a oedd yn iawn. Aeth Brown yn ôl i fyny'r grisiau, ac roedd ganddo gyllell gegin heb yn wybod i Corinne. Wrth iddi blygu dros y cot, gwnaeth Brown ei thrywanu yn ei chefn. Llwyddodd i wthio heibio i Brown a mynd i'r ystafell ymolchi a chloi'r drws, ond yn fuan wedi hynny, ciciodd Brown ei ffordd drwy'r drws a pharhau i ymosod arni, gan geisio ei thrywanu yn ei gwddf a dweud wrthi am ei drywanu ef fel y byddent yn ‘mynd gyda'i gilydd’.
Yn ystod chwiliadau heddlu o'r cyfeiriad, er na chafwyd adroddiadau blaenorol, daeth i'r amlwg bod Brown wedi bod yn ymddwyn yn rheolaethol tuag ati ers blynyddoedd. Roedd cloeon ar y tu allan i bob drws yn y tŷ a thystiolaeth bod camerâu teledu cylch cyfyng dan do wedi'u defnyddio. Roedd un camera wedi'i guddio o dan fwrdd ochr gwely yn ystafell wely'r dioddefwr ac wedi'i adael yn weithredol. Canfu'r ymchwiliadau bod y camera hwn, a oedd yn cynnwys sain, wedi recordio'r ymosodiad ar y dioddefwr yn ogystal â'r digwyddiadau yn dilyn hynny.
Yn ystod yr achos llys, parhaodd Brown i ddweud nad oedd yn bwriadu ei lladd ond ar ôl gwrando ar yr holl dystiolaeth, cafodd Brown ei ganfod yn euog o ymgais i lofruddio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd hwn yn ymosodiad parhaus gyda'r nod o gymryd bywyd Corinne Brown. Roedd y recordiad sain yn cynnwys tystiolaeth hanfodol yn yr achos am ei fod wedi ategu cyfrif y dioddefwr, a gellid clywed nifer o ffeithiau allweddol yr oedd wedi'u nodi yn ei chyfweliad ar y recordiad, gan gynnwys yr unigolyn dan amheuaeth yn cicio drwy ddrws yr ystafell ymolchi ar ôl i'r dioddefwr geisio cuddio ynddo.
“Mae'r ddedfryd heddiw yn dangos y byddwn, fel heddlu, yn parhau i fynd ar ôl y rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched a'u dwyn i gyfrif.”
Cafodd Darren Brown hefyd orchymyn atal am gyfnod amhenodol er mwyn diogelu ei ddioddefwr.
Gweli Fi