Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwe dyn o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Chaerfyrddin wedi cael eu carcharu am ymwneud â chyflenwi cocên.
Cafwyd Liam Davies sy'n 25 oed o ganol dinas Abertawe, Kyle Johansen sy'n 32 oed o ardal Portmead, Jay Picton sy'n 39 oed o Peniel Green, Jeffery Surman sy'n 39 oed o Townhill, Dean Williams sy'n 51 oed o Sgiwen a Gary Lewis sy'n 35 oed o Lanelli yn euog yn dilyn gwaith ymchwilio gan dîm Ymgyrch Manfern.
Nodwyd bod Kyle Johansen, Dean Williams a Jay Picton wedi ymwneud â phrynu a chyflenwi cocên fesul cilogram ac maent wedi cael eu dedfrydu i chwe blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Mae Jeffery Surman wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar; mae Liam Davies wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar, ac mae Gary Lewis wedi cael dedfryd o ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
"Mae'r chwe dyn hyn wedi cael eu carcharu am eu rhan mewn gweithgarwch i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, sy'n achosi gofid mawr a niwed yn ein cymunedau.
"Mae tîm Ymgyrch Manfern yn gweithio'n ddiflino i sicrhau euogfarnau ar gyfer pawb sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Fel rhan o'r drosedd hon, mae troseddwyr sy'n poeni am ddim heblaw arian yn camfanteisio ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
"I bobl eraill sy'n ymwneud â'r fasnach gyffuriau anghyfreithlon: bydd ein swyddogion yn eich canfod, bydd eich asedau yn cael eu tynnu oddi arnoch, a byddwch yn cael eich dwyn i gyfrif."