Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael euogfarn o droseddau rhyw yn erbyn plentyn.
Cafodd Alexander Wilson, 45 oed, o Lanelli, ei gyhuddo o ddau achos o dreisio plentyn dan 13 oed ac un achos o ysgogi plentyn dan 13 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol.
Cafodd troseddau Wilson eu nodi pan anfonodd ei ddioddefwr air diogel dros neges destun at ei fam i ddangos ei fod yn teimlo ei fod mewn perygl.
Yr wythnos hon mae wedi cael dedfryd estynedig o 20 mlynedd, sy'n cynnwys 17 mlynedd yn y carchar a thair blynedd ar drwydded estynedig.
Bydd yn y carchar am o leiaf ddwy ran o dair o'i ddedfryd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Medlicott:
"Mae Alexander Wilson yn rheibiwr rhywiol peryglus yn erbyn plant. Diolch byth, mae profiad trawmatig ei ddioddefwr bellach drosodd – ond bydd y niwed a achoswyd gan droseddau Alexander Wilson yn ddifesur.
"Bydd nawr yn cael ei anfon i'r carchar."
I gael gwybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol| Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
I gael help a chymorth mewn perthynas â threisio, ymosodiadau rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)