Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd swyddogion yr heddlu yn Ne Cymru a Gwent yn cael ap ffôn symudol a fydd yn eu galluogi i gadarnhau hunaniaeth unigolyn anhysbys ag un botwm.
Nhw fydd y cyntaf yn y DU i ddefnyddio technoleg i adnabod unigolion mewn amser bron yn real drwy ap adnabod wynebau.
Bydd yn galluogi swyddogion i adnabod rhywun sydd ar goll, rhywun sy'n wynebu risg neu rywun y mae'r heddlu yn chwilio amdano, pan fydd yr unigolyn hwnnw yn methu rhoi manylion, yn gwrthod rhoi manylion neu'n rhoi manylion anghywir.
Gellir defnyddio'r ap hefyd ar rywun sydd wedi marw neu sy'n anymwybodol – gan helpu swyddogion i'w hadnabod yn brydlon er mwyn cael gafael ar eu teulu â gofal a thosturi.
Wedi'i enwi'n adnodd Adnabod Wynebau a Gychwynnir gan Weithredwr, mae eisoes wedi cael ei brofi gan 70 o swyddogion ledled De Cymru a oedd yn gallu ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o senarios lle gwnaeth pobl naill ai wrthod nodi eu hunaniaeth neu ddarparu manylion anwir.
Mewn achosion lle mae'r heddlu yn chwilio am rywun am gyflawni troseddol, mae'n golygu y gellir arestio a rhoi unigolyn yn y ddalfa yn gyflym. Caiff achosion o gam-adnabod unigolyn eu datrys yn hawdd heb fod angen ymweld â gorsaf heddlu neu'r ddalfa.
Nid yw'r lluniau a gymerwyd wrth ddefnyddio'r ap byth yn cael eu cadw, ac mewn mannau preifat megis tai, ysgolion, cyfleusterau meddygol a mannau addoli, a dim ond mewn sefyllfaoedd mewn perthynas â risg o niwed sylweddol y caiff yr ap ei ddefnyddio.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu De Cymru, Trudi Meyrick:
"Mae swyddogion yr heddlu bob amser wedi gallu adnabod rhywun y maent yn meddwl sydd ar goll, neu rywun y mae'r heddlu yn chwilio amdano, a'u stopio ar y stryd. Yr hyn y mae'r dechnoleg hon yn ei wneud yw gwella eu gallu i gadarnhau hunaniaeth unigolyn yn gywir, gan helpu i sicrhau datrysiad teg a thryloyw.
"Mae'r ap ffôn symudol hwn yn golygu y gall swyddogion ateb y cwestiwn ‘Ai ti yn wir yw'r unigolyn rydym yn chwilio amdano?’ yn hawdd ac yn gyflym drwy gymryd un llun sy'n cael ei gymharu â chronfa ddata yr heddlu. Wrth ddelio â pherson o ddiddordeb yn ystod eu patrolau yn ein cymunedau, gall swyddogion gael gafael ar wybodaeth ar unwaith, a fydd yn eu galluogi i adnabod p'un ai'r unigolyn sydd wedi'i stopio yw'r un y mae angen iddynt siarad ag ef ai peidio, heb orfod dychwelyd i orsaf yr heddlu.
"Nid yw'r dechnoleg hon yn disodli dulliau traddodiadol o adnabod pobl a bydd swyddogion yr heddlu ond yn ei defnyddio ar adegau lle mae'n briodol ac yn addas gwneud hynny, gyda'r nod o gadw'r unigolyn hwnnw, neu'r cyhoedd yn ehangach, yn ddiogel."
Mae adnabod wynebau yn un o'r datblygiadau technolegol sy'n cael eu defnyddio ledled heddluoedd De Cymru a Gwent gyda'r nod o wneud gwaith swyddogion yr heddlu yn haws ac yn gyflymach, er mwyn iddynt gael mwy o amser i weithio ar gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent, Nick McLain:
"Mae manteisio ar dechnoleg ac arloesedd yn rhan allweddol o blismona effeithiol a diogelu'r cyhoedd. Rwy'n falch bod Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn arwain y ffordd yn y maes hwn ar y cyd drwy gyflwyno'r ap adnabod wynebau cyntaf.
"Mae defnyddio'r dechnoleg hon bob amser yn cynnwys unigolyn yn gwneud penderfyniadau ac yn goruchwylio, gan sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio'n gyfreithlon, yn foesegol ac er budd y cyhoedd. Mae gennym broses archwilio gadarn ar waith i sicrhau atebolrwydd ac ni wnaeth profion ddangos unrhyw dystiolaeth o duedd o ran hil, oedran na rhywedd.
"Drwy roi'r ap hwn ar waith, rydym yn atal niwed, gan helpu'r rhai mewn angen a chadw ein cymunedau'n ddiogel."
Canlyniadau o'r peilot - mis Rhagfyr 2021 i fis Mawrth 2022
Roedd y 39 o luniau a dynnwyd yn ddynion a 3 a dynnwyd yn fenywod. Nid oedd unrhyw ddefnydd ar gofnod yn cynnwys rhywedd anhysbys.
O'r 42 defnydd o'r ap lle cafodd llun 35 o destunau unigol ey tynnu ohonynt, cafodd y rhesymau canlynol eu cofnodi:
Cafodd y rhesymau canlynol eu cofnodi:
Rhoddodd y swyddogion a gymerodd ran yn y treial adborth a oedd yn cynnwys bod yr ap yn hawdd ei ddefnyddio ac yn fuddiol ar gyfer plismona gweithredol. Bu achlysuron lle arweiniodd y defnydd o'r ap at atafaelu cerbydau gan yrwyr a oedd wedi'u gwahardd sydd wedi dweud celwydd am eu hunaniaeth.
Mae wedi cael ei ddefnyddio ar bobl sy'n dwyn o siopau sydd wedi dweud celwydd wrth geisio osgoi cael eu harestio i gael datrysiad y tu allan i'r llys. Mae'r ap wedi cael ei ddefnyddio ddwywaith gydag unigolion sydd wedi marw, ac arweiniodd un ohonynt at gyfatebiaeth a alluogodd swyddogion i gyflymu'r broses adnabod ffurfiol yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol. O dan yr amgylchiadau hyn, gallai atal teulu rhag yn dysgu am farwolaeth anwylyd drwy gyfryngau cymdeithasol neu drydydd parti.
Mae'r ap wedi galluogi unigolyn coll, 15 oed, o ran arall o'r DU i gael ei adnabod ar ôl iddo wrthod rhoi ei fanylion. Cafodd ei ddychwelyd i fan diogel ar ôl cael ei adnabod gan ddefnyddio'r ap. Llwyddodd swyddogion yn Ne Cymru wedyn i gysylltu â heddlu cartref yr unigolyn coll i roi gwybod am ei leoliad.