Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn-swyddog yr heddlu a gafodd ei ddiswyddo cyn cael ei ddedfrydu i garchar am oes am droseddau rhyw yn erbyn plant ar-lein wedi ymddangos gerbron y llys ar ôl iddo gael ei gyhuddo o droseddau pellach.
Cafodd Lewis Edwards, 24 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, ei garcharu ym mis Hydref 2023 am 161 o droseddau, gan gynnwys annog plant i greu delweddau anweddus ar-lein ac i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol.
Yna cafodd ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio ffonau symudol a thri chyhuddiad pellach o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant. Daethpwyd o hyd i'r delweddau ar ôl i ffôn symudol a oedd yn eiddo i Edwards gael ei ddarganfod wedi'i guddio yn ardd ei gyfeiriad cartref.
Plediodd Edwards yn euog i'r cyhuddiadau ychwanegol ac mae wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis.
Cyfaddefodd ei fam, Rebekah Edwards, 48 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod wedi cuddio ffonau symudol yn yr ardd ar ôl cael ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae wedi cael ei dedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankine:
“Mae Lewis Edwards eisoes yn bwrw dedfryd sylweddol yn y carchar am ei droseddau erchyll yn erbyn plant. Rydym yn parhau i geisio adnabod ei dddioddefwyr lawer drwy enwau defnyddiwr Snapchat i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u cefnogi.
“Oherwydd graddfa a difrifoldeb ei droseddau, nid oes modd amddiffyn unrhyw un sy'n ceisio rhwystro'r ymchwiliad drwy guddio tystiolaeth, a dyma pam roedd yn gwbl briodol cyflwyno cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr achos hwn.”
Cafodd Edwards ei ddiswyddo fel swyddog yr heddlu wedi iddo gael ei wahardd dros dro o'i waith yn union ar ôl i'w droseddau ddod i'r amlwg.