Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, wedi derbyn Medal Heddlu'r Brenin yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae Mr Vaughan, sydd wedi bod yn y swydd ers pedair blynedd ac sydd wedi cael gyrfa o 28 mlynedd yn yr heddlu, wedi cael ei gydnabod am wasanaeth neilltuol ym maes plismona.
Ymunodd â Heddlu De Cymru yn 2016 – ar ôl gwasanaethu am ddau ddegawd mewn amrywiaeth o rolau gyda Heddlu Gogledd Cymru – fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol, gan symud i rôl y Dirprwy Brif Gwnstabl yn 2019 ac yna'r Prif Gwnstabl flwyddyn yn ddiweddarach. Mae hefyd yn un o ddau is-gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
Gan ymateb i'r newyddion am yr anrhydedd, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis:
“Rwy'n gwybod y bydd pawb yn Nhîm Heddlu De Cymru am longyfarch y Prif Gwnstabl am dderbyn Medal Heddlu'r Brenin. Mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol am ei flynyddoedd o wasanaeth ym maes plismona yng Nghymru a ledled y DU, ei arweinyddiaeth a'i benderfyniad i gefnogi ei swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn Heddlu De Cymru, ac i sicrhau ein bod ni, fel sefydliad, yn gwasanaethu cymunedau De Cymru fel ein prif flaenoriaeth.”
Mr Vaughan yw'r arweinydd plismona yng Nghymru o ran cydraddoldeb rhywedd, ac mae wedi cael ei gydnabod am ei waith yn y maes hwn gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Menywod yn yr Heddlu. Mae hefyd wedi cael Gwobr Arwain Cymru am Arweinyddiaeth ym maes Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Fel siaradwr Cymraeg rhugl, cafodd ei benodi i Orsedd Cymru yn 2019 am ei wasanaeth i'r Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu ei waith yn Heddlu De Cymru yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i unigolion mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Travis:
“Drwy ei arweinyddiaeth, mae'r Prif Gwnstabl wedi mynd ati'n gyson i geisio gwella plismona, ac mae wedi bod yn hyrwyddwr brwd dros gydraddoldeb hil a chydraddoldeb rhywedd, yn ogystal â'r Gymraeg. Mae wedi dangos ymrwymiad enfawr i wasanaethu'r cyhoedd, tosturi wrth gefnogi ein staff, ac arweinyddiaeth gref drwy'r heriau y mae ein heddlu, a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, wedi'u hwynebu.
“Rydym yn hynod falch ei fod wedi cael ei gydnabod heddiw.”