Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn falch iawn bod un o'n swyddogion cymorth plismona yn y gymdogaeth wedi cael BEM yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae Carly Hart, sy'n gweithio yn ardaloedd Llanisien, Llanedeyrn, Tredelerch a Llaneirwg o Gaerdydd, wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau i blismona ac i'r gymuned leol.
Ac fe gyfaddefodd, pan dderbyniodd yr hysbysiad, ei bod yn tybio y byddai'n ymwneud â gwasanaeth rheithgor, gan ddweud:
“Rwyf mor ddiolchgar fy mod hyd yn oed wedi cael fy ystyried am anrhydedd ar y lefel hon, heb sôn am ei dderbyn.”
Mae swyddogion cymorth plismona yn y gymdogaeth yn cefnogi eu timau plismona mewn lifrai lleol, gan eu galluogi – ymysg pethau eraill – i blismona'r strydoedd yn fwy effeithiol, ymateb yn fwy effeithlon i bryderon lleol, a gwella cysylltiadau â phobl leol.
Ychwanegodd Carly:
“Rydw i dal methu credu'r holl beth, ac am efallai'r tro cyntaf yn fy mywyd, does gen i ddim y geiriau.
“Ni fyddwn yn gallu gwneud y gwaith rwy'n ei wneud heb gydweithwyr rhagorol y tîm plismona cymdogaeth, a'r asiantaethau partner rwy'n gweithio gyda. Nid menter unigol yw plismona cymdogaeth, felly hoffwn hefyd ddweud diolch personol i bob cydweithiwr rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda dros y blynyddoedd.
“Rydych chi ond mor dda â'r rhai rydych chi'n gweithio ochr yn ochr â nhw.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Arabella Rees, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro:
“Rwyf wrth fy modd bod ymroddiad Carly i wasanaethu ein cymunedau yn nwyrain Caerdydd wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
“Mae Carly yn adnabyddus am ei pharodrwydd eithriadol i weithio a'i dull arloesol o blismona yn y gymdogaeth lle mae'n sbardun y tu ôl i amrywiaeth o brosiectau sydd wedi llwyddo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel.
“Ymysg y rhain mae gweithio gydag ysgolion lleol ar amrywiaeth o faterion allweddol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, hyrwyddo prosiect StreetSafe i ddatblygu cyfleoedd i atal trais yn erbyn menywod a merched a chreu cyfleoedd i bobl ifanc ochr yn ochr â Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd. Mae ei phroffesiynoldeb, ei hymrwymiad a'i brwdfrydedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac yn parhau i wneud hynny – rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi gan ei chydweithwyr ym maes plismona ac yn ein sefydliadau partner fel ei gilydd.
“Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod y dyfalbarhad a'r ymroddiad i wasanaethu'r gymuned sy'n rhan o blismona ac sy'n ail natur i Carly. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth y mae Carly yn ei wneud ac yn falch iawn o bopeth y mae wedi'i gyflawni.
“Ar ran pawb yn nhîm ehangach Caerdydd a'r Fro, a Heddlu De Cymru cyfan, hoffwn longyfarch Carly yn fawr am y gydnabyddiaeth hon.”